Cwpan FA Lloegr: Millwall 3-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Colli fu hanes Casnewydd oddi cartref yn erbyn Millwall yn nhrydedd rownd FA Lloegr.

1-0 oedd mantais y tîm cartref ar yr hanner wedi i Matt Smith sgorio ar ôl saith munud.

A cyn y chwiban, er i'r Alltudion frwydro'n ôl, roedd yna ddwy gôl arall ar Y Den - y naill drwy gic gosb i Connor Mahoney a'r llall i Tom Bradshaw, chwaraewr rhyngwladol Cymru.

Yn y gorffennol mae Casnewydd wedi disgleirio yng Nghwpan FA Lloegr ond roedd y tîm o Lundain yn gryfach na'r Alltudion ddydd Sadwrn.

Roedd canlyniad yn siom arbennig i Padraig Amond a oedd wedi gobeithio ymestyn ei record o sgorio mewn gemau Cwpan FA yn ddi-dor.