Ail Adran: Casnewydd 1-1 Cheltenham
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Cheltenham sgorio yn hwyr yn y gêm i olygu fod Casnewydd wedi mynd chwe gêm heb fuddugoliaeth.
Yr Alltudion aeth ar y blaen gydag ergyd Tristan Abrahams wedi'r egwyl, yn dilyn cornel Josh Sheehan.
Ond sgoriodd Ben Tozer, cyn chwaraewr Casnewydd, i ddod ar sgôr yn gyfartal.
Golygai'r canlyniad fod Casnewydd yn gostwng i safle 14 yn yr Ail Adran.
Ar ôl y gêm dywedodd rheolwr Casnewydd Michael Flynn: "Doedd o ddim yn greulon, yn hytrach roedd e'n gôl ofnadwy i ildio."