Nid yw yn nef yn unman

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na ddau William Morgan amlwg yn hanes Cymru a'r Gymraeg. Roedd un ohonynt yn cadw defaid yn Llandegai a'r llall oedd cyfieithydd y Beibl!

Afraid dweud efallai taw ar ôl yr esgob nid y bugail y mae pencadlys newydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru wedi ei henwi. Mae hwnnw'n glamp o adeilad yng Nghanol Caerdydd ac er taw adleoliad o swyddfa cyllid y wlad o faestrefi'r brifddinas yw'r swyddfa i raddau helaeth mae'r symbolaeth yn fan hyn yn bwysig.

Yn eu cwest i'w dihangfa agos yn refferendwm annibyniaeth yr Alban un o'r casgliadau gan banjyndryms Whitehall oedd bod llywodraeth y DU yn gymharol anweledig yn y gwledydd datganoledig a'i bod yn ymddangos fel peth estron, pell i ffwrdd.

Er mwyn ceisio brwydro'r canfyddiad hwnnw, ail-frandiwyd Swyddfa Cymru fel Llywodraeth y DU yng Nghymru a dyna fydd ar yr arwyddion y tu fas i Dŷ William Morgan.

Ond pam William Morgan? Efallai fy mod yn gorfeddwl ynghylch y peth ond mae'n bosib bod pwy bynnag wnaeth fathu'r enw yn gweld cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg fel enghraifft o Deyrnas Lloegr a'i holynydd Y Deyrnas Unedig yn gweithredu er budd y Cymry a'u diwylliant. Os felly mae'n reit glyfar.

Gallwn ddisgwyl llawer mwy o hyn yn y dyfodol gyda jacs yr undeb yn ymddangos ar brosiectau sydd wedi ei ariannu'n gan y Trysorlys ac ymdrech i gynyddu presenoldeb adrannau y tu hwnt i hen Swyddfa Cymru o gwmpas y wlad.

Dyw hynny ddim o reidrwydd yn ddrwg o beth. Hawdd iawn yw i Whitehall anghofio am fodolaeth Cymru a dyw hynny ddim yn gweithio er ein lles ni.

Ond gen i air o bwyll i ddeiliaid Tŷ William Morgan hefyd. Y corff diwethaf i geisio ennill ffrindiau yng Nghymru trwy hwpo'i faner ym mhobman oedd yr Undeb Ewropeaidd. Ni gyd yn gwybod diwedd y stori honno!