Ail Adran: Scunthorpe 1-2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth Casnewydd orfod brwydro nôl yn erbyn Scunthorpe er mwyn sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y gynghrair ers mis Hydref.

Ergyd gampus Abo Eisa wnaeth roi'r tîm cartref ar y blaen cyn yr egwyl mewn amgylchiadau anodd ar barc Glandford.

Llwyddodd Jamile Matt i ddod â'r Alltudion yn gyfartal cyn i Lee Novak o Scunthorpe gael ei anfon o'r cae.

Funud yn ddiweddarach sgoriodd Padraig Amond y gôl fuddugol gan ddod â rhediad o ddeg gêm heb fuddugoliaeth i ben.

Golygai'r' canlyniad fod Casnewydd yn symud i safle 11 yn yr Ail Adran.