Adran Dau: Casnewydd 2-0 Swindon

  • Cyhoeddwyd
Josh SheehanFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Josh Sheehan yn dathlu gôl gyntaf Casnewydd

Llwyddodd Casnewydd i sicrhau buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Swindon gyda goliau cynnar yn y naill hanner yn Rodney Parade.

Cafodd yr Alltudion y dechrau perffaith i'r gêm wrth i'r chwaraewr canol cae Josh Sheehan eu rhoi ar y blaen yn y munud cyntaf.

Ac fe lwyddon nhw i ddal yn gadarn am weddill yr hanner cyntaf, gyda Tristan Abrahams hyd yn oed yn methu cyfle i ddyblu eu mantais cyn yr egwyl.

Rhwydodd Jamille Matt yr ail ar ôl 49 munud i agor y bwlch rhwng Casnewydd a'r ymwelwyr, oedd ar frig y gynghrair wrth gyrraedd Rodney Parade ar gyfer y gêm.

Ac fe wnaethon nhw ddal ymlaen i'r fuddugoliaeth sy'n golygu eu bod bellach yn 11eg yn y tabl, wyth pwynt i ffwrdd o'r gemau ail gyfle.