Yr Ail Adran: Leyton Orient 2-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Roedd hi'n edrych mai gêm gyfartal ddi-sgôr fyddai hi'n Brisbane Road tan i bethau danio yn y 10 munud olaf.
Dechreuodd y sgorio pan rwydodd Ryan Haynes i'w gôl ei hun o gic gornel a rhoi'r fantais i'r tîm cartref.
Gyda munud i fynd ychwanegodd Ruel Sotiriou ail i Leyton Orient.
Ond bedair munud i mewn i'r amser gafodd ei ganiatáu am anafiadau fe groesodd Robbie Wilmott ac fe blannodd Jamille Matt beniad o ganol y cwrt cosbi i gornel dde'r rhwyd.
Er bod yna bum munud arall i'w chwarae doedd yna ddim cyfleoedd clir i Gasnewydd gipio pwynt.
Mae Casnewydd yn 11eg yn yr Ail Adran.