Adran Dau: Casnewydd 1-0 Macclesfield
- Cyhoeddwyd
![Robbie Willmott](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/10BEC/production/_110688586_cdf_280120_newport_v_macclesfield_016.jpg)
Robbie Wilmott yn mynd am y bêl
Roedd un gôl yn ddigon i guro Macclesfield yn Rodney Parade nos Fawrth ond bu'n rhaid i Gasnewydd weithio'n galed i sicrhau'r tri phwynt.
Y capten Joss Labadie wnaeth sgorio, gyda pheniad ar ôl 34 o funudau, wedi i'r ymwelwyr fethu â chlirio ergyd ganddo.
Yr Alltudion gafodd y gorau o'r chwarae ar y cyfan, ac fe fethodd Labadie, Josh Sheehan a Jordan Green gyfleoedd i ymestyn y fantais.
Mae Casnewydd yn parhau yn yr 11eg safle, gyda gemau yn weddill o gymharu â'r timau o'u cwmpas yn nhabl Adran Dau, ac mae Macclesfield yn parhau ddau safle o'r gwaelod.