Adran Dau: Plymouth 1-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Tyreeq BakinsonFfynhonnell y llun, Alex Davidson
Disgrifiad o’r llun,

Tyreeq Bakinson yn siarad gyda'r rheolwr Mike Flynn pan oedd yn chwarae dros Gasnewydd y llynedd

Sgoriodd Tyreeq Bakinson ei gôl gyntaf - a'r un fuddugol - i Plymouth Argyle ar draul ei gyn-glwb, Casnewydd ddydd Sadwrn.

Fe rwydodd Bakinson, sydd ar fenthyg o Bristol City, ar ôl pum munud o chwarae.

Gorffennodd Argyle y gêm gyda 10 dyn ar ôl i Gary Sawyer gael cerdyn coch gyda phum munud yn weddill am drosedd ar Jordan Green.

Cafodd Joss Labadie a Padraig Amond gyfle yn yr ail hanner i Gasnewydd, sy'n disgyn i'r 12fed safle yn y tabl.