Adran Dau: Casnewydd 0-0 Walsall

  • Cyhoeddwyd
Billy WatersFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd Billy Waters â Chasnewydd ar fenthyg o Northampton Town ym mis Ionawr

Doedd dim goliau yn Rodney Parade nos Fawrth yn y gêm rhwng Casnewydd a Walsall.

Bu bron i'r amddiffynnwr Ryan Inniss roi'r tîm cartref ar y blaen yn y funud agoriadol gyda pheniad a aeth ochor anghywir y postyn cefn.

Llwyddodd golwr Walsall, Liam Roberts i atal ymdrechion gan Jordan Green a Jamille Matt yn yr ail hanner.

Mae'r ddau dîm â'r un nifer o bwyntiau - 40 - ond mae Casnewydd yn symud i'r 13eg safle a Walsall yn aros yn y 15ed safle.