Actores eisiau gwneud Caernarfon yn dref arwyddo
- Cyhoeddwyd
Y rhaglen i blant, Dwylo'r Enfys, wnaeth gyflwyno'r actores a'r cyn aelod o'r grŵp Pheena, Ceri Bostock, i'r iaith arwyddo Makaton. Ond bellach mae hi'n arwain ymgyrch i wneud tref Caernarfon yn dref Makaton-gyfeillgar.
Mae hi'n angerddol am fanteision yr iaith ac eisiau helpu pobl ag anawsterau cyfathrebu - o fabis i bobl sydd wedi dioddef strôc a phobl hŷn sydd â Dementia - i allu cyfathrebu mewn siopau a sefydliadau.
Mae iaith Makaton yn defnyddio symbolau ac arwyddion sy'n dod o BSL (British Sign Language) ond mae ei defnyddwyr hefyd yn siarad tra'n arwyddo.
Diolch i'w gallu yn yr iaith arwyddo bydd Ceri i'w gweld yn actio tiwtor Makaton ar opera sebon Coronation Street ddiwedd mis Chwefror.
Ond mae hi hefyd yn fam i dri o blant ac yn diwtor go iawn, yn cynnal gweithdai Makaton a gweithio gydag ysgolion.
Does yna ddim digon o gefnogaeth i deuluoedd, meddai.
"Dwi'n teimlo bod gen i responsibility i helpu'r teuluoedd Cymraeg yma dwi 'di bod yn gweithio efo nhw achos does dim digon o gefnogaeth allan yna," meddai Ceri.
"Mae o'n gwella... mae 'na fwy o gyrsiau Makaton yn digwydd a dwi'n gwneud gwaith drwy Cyngor Gwynedd efo ysgolion.
Plant 'heb iaith'
"Ond be sy' 'na ddim ydy digon o gefnogaeth i deuluoedd. Yn ôl y staff mae mwy a mwy o blant yn dod i fewn i'r Cylch Meithrin heb iaith a dwi'n meddwl bod nhw'n sylwi bod angen Makaton ar bawb.
"Mae'n helpu plant i siarad. Dwi 'di bod yn ei ddefnyddio fo efo fy hogan fach ers mae hi'n chwe mis oed ac mae ei iaith hi wedi dod ymlaen yn ffantastig.
"Mae angen i bobl ddeall sut mae Makaton yn helpu efo iaith.
"Mae lot yn poeni yn dal i fod bod nhw ddim isho i'w plentyn arwyddo, ac eisiau iddo siarad, ond mae Makaton yn helpu i siarad ddod yn gynt ac yn haws.
Rhieni yn 'desbret'
"Ond does 'na ddim cyrsiau i deuluoedd ar gael am ddim: mae plant yn arwyddo yn yr ysgol neu yn y Cylch, yn enwedig mewn ysgolion arbennig, ond wedyn maen nhw'n mynd adre ac yn arwyddo ond dydi'r teuluoedd ddim yn deall be' maen nhw'n arwyddo.
"Dyna lle mae'r angen i ni ddod i fewn ac egluro i'r cynghorau beth sy'n digwydd: mae 'na famau a tadau yn desbret."
Mae cynlluniau ar y gweill yn Sir Ddinbych i ddod yn Makaton-gyfeillgar ond prin iawn yw'r llefydd yng Nghymru sy'n helpu pobl sy'n cyfathrebu drwy iaith arwyddo o'i gymharu â gweddill y DU.
Ond mae hi am geisio newid hyn gan ddechrau gyda Gwynedd a'i thref leol, Caernarfon.
"Mae ganddon ni i gyd hawl i fynd i siopau a siarad yn yr iaith rydan ni'n cyfathrebu ynddi ac mae llawer o bobl yn defnyddio Makaton fel yr iaith yma. Felly mae angen gwneud rhywbeth iddyn nhw - agor cyfleoedd a rhoi gwell bywyd i deuluoedd sydd eisiau mynd allan a chyfathrebu efo pobl mewn siopau," meddai.
Mae Ceri yn cynnal ei gweithdai yn ddwyieithog gyda siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn yr un grŵp ac mae hynny wedi dod â mantais annisgwyl.
"Dwi'n gweld hyn fel ffordd o hybu'r iaith Gymraeg - mae 'na bobl Saesneg wedi dod ataf fi ar y cyrsiau yn dweud eu bod nhw wedi dysgu mwy o Gymraeg drwy wneud cwrs Makaton yn ddwyieithog na pan maen nhw wedi bod ar gwrs Cymraeg!" meddai.
"Dwi'n teimlo'n lwcus iawn bod gynnai'r Makaton ac mae o i gyd lawr i Dwylo'r Enfys.
"Ar ôl gorffen ffilmio Dwylo'r Enfys o'n i'n mwynhau gwneud Makaton gymaint nes i gario mlaen a pasio fel tiwtor. Mae wedi galluogi fi i fod yn self-employed fel mod i'n gallu gweithio o gwmpas yr actio."
Roedd Ceri eisoes wedi dysgu ychydig o British Sign Language pan gafodd hi'r gwaith o actio Heulwen ar Dwylo'r Enfys.
Daeth y gyfres i fod wedi i'w ffrind, Ruth Thomas, weld nad oedd darpariaeth Gymraeg tebyg i'r rhaglen Mr Tumble yn Saesneg ar gael i'w merch Enfys, sydd â Syndrom Downs.
Cafodd Ceri gwrs brys mewn Makaton ar gyfer y gyfres ac roedd ganddi diwtoriaid ar y set yn gwneud yn siŵr ei bod yn gallu arwyddo yn gywir.
Y gwahaniaeth pennaf rhwng Makaton Cymraeg a Saesneg yw trefn y geiriau, eglura.
Ond diolch i'r gyfres honno ac angerdd Ceri am yr iaith wedi hynny, mae wedi cael rhan ar un o'r operâu sebon enwocaf.
"Dwi'n coelio bod pethau'n digwydd am reswm. O'n i 'di mynd am ran arall ar Corrie ond heb ei gael o. Wedyn wnaeth y rhan yma ddod i fyny... rhan fach ydi o ond dwi'n defnyddio Makaton, so mae wedi dod â'r ddau beth efo'i gilydd!"
Hefyd o ddiddordeb: