Canu'r Bliws

  • Cyhoeddwyd

Dyma gwestiwn bach diddorol i chi. Pam mae'r Ceidwadwyr yn gyson tanberfformio yng Nghymru pan ddaw hi'n fater o etholiad go iawn yn hytrach nac arolwg barn?

Mae'r patrwm yn ddigon cyfarwydd erbyn hyn. Cyn cychwyn ymgyrch etholiad fe fydd Roger Scully yn ymddangos ar ein setiau teledu yn darogan y gallasai goruchafiaeth hir y blaid Lafur yng Nghymru fod yn dirwyn i ben.

Yna rhai wythnosau neu fisoedd yn ddiweddarach ar ddiwrnod mawr y cyfri cawn ddarganfod fod y wal goch Gymreig, neu o leiaf wal goch de Cymru dal yn ei hunfan.

'Gallasai' yw'r gair allweddol yn fan hyn, wrth gwrs. 'Snapshot' nid proffwydoliaeth yw unrhyw arolwg barn ac, hyd y gwelaf i does dim byd yn bod ar y data na dadansoddiad Roger ohoni.

Yn hytrach mae 'na ryw wendid yn perthyn i'r gleision neu ryw wytnwch yn eiddo i'r cochion sy'n rhwystro'r Ceidwadwyr rhag mynd a'r maen i'r mur.

Mae diffyg trŵps ar lawr gwlad yn cynnig esboniad rhannol. Plaid fechan yw'r Ceidwadwyr Cymreig o safbwynt ei haelodaeth ac fe adlewyrchir hynny yn ei gwendid cymharol yn ein siambrau cyngor.

O'r 17,000 o seddi cyngor yn Lloegr mae'r Ceidwadwyr yn dal dros saith mil neu ryw ddeugain y cant o'r cyfanswm. 170 neu 15% yw'r ffigwr cyfatebol yng Nghymru a dyw presenoldeb cynghorwyr annibynnol ddim yn dod yn agos at esbonio'r gagendor.

Nawr mae 'na dipyn o or-ddweud wedi bod ynghylch nifer yr aelodau gweithgar oedd gan Lafur yn sgil ethol Jeremy Corbyn yn arweinydd ond does dim dwywaith bod Llafur yn sylweddol gryfach na'r Torïaid yn y ffosydd lleol.

Yn yr oes ddigidol hon mae modd gwneud yn iawn am ddiffygion ar lawr gwlad gyda'r adnoddau angenrheidiol ond o safbwynt ariannol, yn wahanol i'r sefyllfa yn yr Alban mae'r blaid yn byw bron yn llwyr ar ofyn y blaid yn Lloegr.

Does neb yn siŵr iawn faint o flaenoriaeth y bydd y swyddfa ganolog yn rhoi i etholiadau'r Cynulliad flwyddyn nesaf ond dyw'r cwestiynau cyson ynghylch effeithlonrwydd arweinyddiaeth a threfniadaeth y blaid Gymreig ddim yn debyg o argyhoeddi Llundain bod 'na werth mewn buddsoddi.

Fel dwedodd un Tori Cymreig wrtha'i - oes pwynt hela llwyth o gwrw i blaid sydd fel pe bai'n methu trefnu parti mewn bragdy?

Mae'r cyfan wedi'n gadael ni mewn sefyllfa rhyfedd iawn lle mae plaid sydd newydd fwynhau un o'i etholiadau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru a'i phen yn ei phlu gyda chwestiynu cynyddol ynghylch dyfodol ei harweinydd.