Ail Adran: Grimsby 4-2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Ryan Inniss of Newport County rises to meet a cornerFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Alltudion yn disgyn i'r 16eg safle

Colli oedd hanes Casnewydd yn yr Ail Adran nos Fawrth wrth i Grimsby guro'r ymwelwyr o 4 gôl i 2.

Brad Garmston sicrhaodd gôl gyntaf y tîm cartref o fewn dwy funud, ac er i Jordan Green unioni'r sgôr yn fuan wedyn, daeth ail gôl Grimsby ychydig cyn hanner amser.

Aeth Grimsby ymhellach ar y blaen diolch i gôl gan James Hanson, cyn i Padraig Among roi gobaith hwyr i Gasnewydd.

Ond fe sicrhaodd Max Wright y fuddugoliaeth ar ôl 84 munud i'r tîm cartref.

Fe neidiodd Grimsby uwchben Casnewydd i 14eg safle yn y gynghrair, tra bod yr Alltudion yn disgyn i'r 16eg safle.