Adran Dau: Oldham 5-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Boundary Park, OldhamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr wythnos hon, cafodd Oldham Athletic eu gorchymyn i ddod a'r clwb i ben am fethu a thalu trethi

Dywedodd rheolwr Casnewydd, Michael Flynn, nad oedd ei dîm yn "ddigon da" wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Oldham o 5-0.

Danny Rowe gafodd gôl gyntaf y tîm cartref, cyn i Zachary Dearnley gynyddu'r fantais, ac yna fe ychwanegodd Rowe ei ail yn fuan wedi'r egwyl.

Cafodd Thomas Hamer y bedwaredd a Jonny Smith sgoriodd bumed Oldham wrth iddyn nhw godi i'r 17eg safle - un safle yn is na Chasnewydd.

Nid yw'r Alltudion wedi cael buddugoliaeth yn eu saith gêm gynghrair ddiwethaf.