Dewis grŵp Cymru ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd 2020
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Cymru yn yr un grŵp a'r Ffindir, Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd 2020.
Daeth yr enwau o'r het mewn seremoni yn Amsterdam brynhawn ddydd Mawrth.
Bydd Cymru yng Ngrŵp 4 o Gynghrair B yn y gystadleuaeth, gydag un tîm yn ennill dyrchafiad i Gynghrair A ac un yn disgyn i Gynghrair C.
Fe wnaeth Cynghrair y Cenhedloedd 2018 gynnig llwybr i gemau ail gyfle Euro 2020 ar gyfer 16 tîm, ond nid yw'r un peth yn wir y tro hwn.
Y tro yma dim ond dau o'r 55 tîm fydd yn ennill eu lle yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022 drwy eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd 2020.
Er ei bod yn hynod annhebygol y bydd gwledydd o Gynghrair B ymysg y rheiny, mae'r gystadleuaeth yn gyfle i Gymru ennill dyrchafiad i'r haen uchaf ar gyfer y tro nesaf.
Bydd y gemau grŵp yn cael eu chwarae rhwng Medi a Thachwedd eleni, gyda'r rowndiau terfynol i enillwyr y grwpiau yn cael eu cynnal yn haf 2021.
Trefn y gemau:
Dydd Iau, 3 Medi 2020
Ffindir v Cymru
Dydd Sul, 6 Medi 2020
Cymru v Bwlgaria
Dydd Sadwrn, 10 Hydref 2020
Gweriniaeth Iwerddon v Cymru
Dydd Mawrth, 13 Hydref 2020
Bwlgaria v Cymru
Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2020
Cymru v Gweriniaeth Iwerddon
Dydd Llun, 16 Tachwedd 2020
Cymru v Ffindir