Blog Vaughan Roderick: Efe, Iolo
- Cyhoeddwyd
Eleni oedd y tro cyntaf, fi'n meddwl, i mi fod yn absennol o'r gwaith ar ddiwrnod y gyllideb. Roeddwn i wedi cytuno fisoedd yn ôl i ddadorchuddio cofeb i Iolo Morganwg ar ddydd ei ben-blwydd a phenderfynais roi'r flaenoriaeth i Iolo yn hytrach na Rishi pan gyhoeddwyd dyddiad y gyllideb.
Mae Iolo yn ôl mewn ffasiwn y dyddiau hyn wrth gwrs ac ymchwil trylwyr a llyfrau darllenadwy Geraint H. Jenkins sy'n bennaf gyfrifol am hynny. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Iolo hefyd wedi bod yn destun awdl fuddugol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a dwy nofel gan Gareth Thomas, un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg.
Mae'n siŵr bod Syr John Morris-Jones, y Gari Tryfan wnaeth ddadlenni ffugiadau Iolo, yn troi yn ei fedd!
Un o'r rhesymau am ddadeni'r Bardd Rhyddid yw bod Iolo'n teimlo'n arbennig o berthnasol yn ein hoes ni.
Iolo oedd y Cymro cyntaf, mewn gwirionedd, i ddeall mai peth wedi ei saernïo yw cenedl, rhywbeth y mae'n rhaid ei chreu. Roedd angen sefydliadau ar genedl, yn ôl Iolo, prifysgolion a llyfrgell yn eu plith, ond roedd e hefyd yn deall bod angen mytholeg ac aeth ati i'w chreu.
Mae hwn yn gyfnod lle mae'r Cymry yn ceisio adeiladu cenedl. Mae gweinidogion ein llywodraeth yn casáu'r term hwnnw ond dyna maen nhw'n gwneud mewn gwirionedd wrth droi'r Cynulliad yn Senedd a chwennych rhagor o bwerau iddi. A beth arall yw'r bwriad i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg os nad ymdrech i gynyddu ein harwahanrwydd? Fe fyddai Iolo'n deall y peth yn iawn!
A phan ddaw hi at greu mytholeg, rydym o hyd yn byw dan gysgod refferendwm lle'r oedd mytholeg yr Ymerodraeth Brydeinig a'r Ail Ryfel Byd yn greiddiol i'r canlyniad.
Doedd hi ddim yn syndod mai cenhedlaeth o ddynion a fagwyd ar Biggles a'r Victor oedd y rheiny oedd mwyaf tebygol i gefnogi Bregsit. Gall neb gyhuddo Iolo o achosi'r fath drafferth!
Hyd y gwn i, y plac newydd ar fan geni Iolo ym Mhennon yw'r pumed gofeb i'r bardd. Mae 'na un enwog ar Fryn y Briallu yn Llundain ond mae 'na ddwy yn y Bontfaen ac un yn Nhrefflemin hefyd. Mae gan Syr John, ar y llaw, arall neuadd breswyl wedi ei enwi ar ei ôl.
Yn nhermau ffwtbol felly; Iolo 5-1 JMJ, ac Iolo sy'n cael y cwpan!