Y gohebydd gwleidyddol John Stevenson wedi marw
- Cyhoeddwyd
Bu farw'r gohebydd gwleidyddol John Stevenson yn 68 oed.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi canfod cyrff dau ddyn mewn cyfeiriad yn Aberdâr brynhawn Gwener, ac mai Mr Stevenson oedd un ohonynt.
Ychwanegodd y llu bod y marwolaethau'n cael eu trin fel rhai heb esboniad, ond nad ydyn nhw'n credu bod unrhyw amgylchiadau amheus.
Cafodd ei eni ym Mangor a'i fagu yn Llangoed ger Biwmares yn unig blentyn.
Aeth i'r brifysgol ym Mangor i astudio Hanes a Diwinyddiaeth. Ar raglen Beti a'i Phobl yn 2000 dywedodd mai'r cyfle i fod yn ganolbwynt sylw oedd y cymhelliad i fod yn bregethwr.
"O edrych yn ôl dwi'n meddwl o'n i, hyd yn oed yn y dyddiau hynny, wrth fy modd efo'r llwyfan," meddai bryd hynny.
"A be gewch chi yn well na llwyfan a chynulleidfa gaeth yn gorfod eistedd yn gwrando arnoch chi yn rwdlan am hanner awr."
Cydymffurfio
Roedd ganddo hefyd uchelgais i fod yn wleidydd a dilyn ôl troed yr Aelod Seneddol Llafur ar gyfer Môn Cledwyn Hughes.
Ar raglen deledu 'Gadael y gwter: Stori John Stevenson' esboniodd y pwysau yr oedd yn teimlo fel dyn ifanc hoyw i gydymffurfio.
"Yn y cyfnod yna fysa'r un blaid wedi dewis dyn hoyw i fod yn ymgeisydd seneddol… ac mi oedd o felly yn rhan o'r ffrynt o'n i'n ei roi i'r byd… i fod yn briod, i fod yn dad, i gael tŷ, i gael swydd barchus broffesiynol, rhan o'r disguise os liciwch chi."
Fe briododd ar ôl graddio o'r brifysgol a chael swydd fel prif swyddog personnel gyda'r hen gyngor Arfon.
Yna ymunodd gyda'r BBC yng Nghaerdydd gan ddod yn ymchwilydd i raglen Heddiw cyn i S4C gael ei sefydlu ac yna gyda Newyddion 7.
Ond bu'n rhaid iddo adael y BBC dan "gwmwl mawr du" meddai, am ei fod yn gaeth i alcohol a'r ddibyniaeth hynny yn effeithio ar ei waith.
Trobwynt
Er iddo dreulio cyfnod yn ysbyty iechyd meddwl Dinbych, methu wnaeth y driniaeth. Dywedodd ei fod wedi treulio degawd coll yn alcoholig digartref, a cholli cysylltiad gyda'i deulu a'i ffrindiau.
"Ches i'm bath am dair blynedd. Nes i'm torri ngwallt am dair blynedd. Nes i'm golchi'n nannedd am dair blynedd. Nes i'm newid fy socks na unrhyw ddilledyn arall am dair blynedd," meddai wrth Beti George.
Y trobwynt oedd cael ei arestio, a dyma ddechrau ei adferiad a rhoi'r gorau i yfed.
Rhoddodd AS Cwm Cynon ar y pryd, Ann Clwyd gyfle iddo fel ymchwilydd, ac yna cafodd gyfle arall wedyn hefyd gyda'r BBC gan weithio fel cynhyrchydd ar raglen Stondin Sulwyn yn 1997.
'Ar fy Ngwaethaf'
Bu'n ohebydd gwleidyddol gan ddarlledu straeon mawr o San Steffan, yn cynnwys darlledu ar yr ymateb gwleidyddol o Lundain yn dilyn ymosodiad terfysgol 9/11.
Symudodd yn ôl i ogledd Cymru i weithio fel gohebydd gwleidyddol i'r BBC, cyn iddo ymddeol ym mis Mawrth 2013.
Roedd ganddo ddiddordeb mawr yn hanes a diwylliant Rwmania, ac fe gafodd ei wneud yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Adran Hanes Prifysgol Bangor ar ôl ei ymddeoliad.
Yn 2015 ysgrifennodd lyfr am ei fywyd a'i yrfa, 'Ar fy Ngwaethaf'.
Yn y blynyddoedd diweddar roedd yn byw yn Aberdâr.
'Meddyliwr craff a sylwebydd rhugl'
Dywedodd Garmon Rhys, pennaeth newyddion BBC Cymru bod John Stevenson yn "gymeriad unigryw a wnaeth gyfraniad sylweddol a phwysig i newyddiaduraeth Cymru dros bedwar degawd".
"Roedd yn feddyliwr craff ac yn sylwebydd rhugl gyda'i arddull rwydd yn gwneud ei adroddiadau yn rhai cofiadwy," meddai.
"Wrth gofio John heddiw, ry'n ni hefyd yn cofio cymeriad hoffus, hawdd iawn cyd-weithio gydag ef.
"Gwelodd John sawl tro ar fyd ond canlyniad hyn oedd dod ag yntau'n agos at ei gynulleidfa gan ddyfnhau ei gonsyrn cymdeithasol.
"Yn ogystal ag adrodd ar yr hyn a oedd yn digwydd, roedd ganddo hefyd y ddawn brin honno i ddweud pam fod yr hyn a ddigwyddai yn bwysig, gan adlewyrchu ei wybodaeth ddofn o hanes gwleidyddiaeth Cymru a San Steffan."