Ai Cymro oedd Sant Padrig?
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n ddydd Sant Padrig, nawddsant Iwerddon, ar 17 Mawrth - diwrnod lle mae nifer yn honni bod ganddyn nhw ychydig o waed Gwyddel ynddyn nhw, ac mae popeth yn troi yn wyrdd.
Ond mae'n debyg mai Cymro oedd Padrig mewn gwirionedd...
Ganwyd tua 387 AD mewn man o'r enw Bannavem Taburniae. Mae'n debyg mai Banwen yng Nghastell-nedd Port Talbot yw'r lle yma, ac mae trigolion y pentref yn cynnal gwasanaeth yno bob blwyddyn i'w goffáu.
Y cysylltiad â'r Iwerddon?
Pan oedd yn ei arddegau, cafodd Padrig ei gipio gan fôr-ladron a bu'n gaethwas yn Iwerddon.
Ar ôl rhyw chwe mlynedd llwyddodd i ffoi yn ôl adref i Gymru, ble hyfforddodd yn Llanilltud Fawr, yn ôl yr hanes, a chael ei ordeinio'n offeiriad.
Dychwelodd i Iwerddon ble chwaraeodd ran blaenllaw yn dod â Christnogaeth i'r Gwyddelod. Ef oedd esgob cyntaf y wlad, ac mae'n cael ei gofio ar 17 Mawrth gan mai dyna ddyddiad honedig ei farwolaeth.
Ond...
Fodd bynnag, nid oes sicrwydd o gwbl fod pob rhan o'r stori yma'n fanwl-gywir.
Mae'r llawysgrifau cynharaf sy'n sôn amdano yn dyddio o leiaf canrif wedi ei farwolaeth, ac mae'n debyg mai o 'Brydain' ddaeth Padrig yn wreiddiol - dyw'r union bentref ddim yn cael ei enwi bob tro nac yn gyson ym mhob llawysgrif.
A pheth arall...
Ac mae'n rhaid cydnabod efallai fod yna lawer o orliwio a gor-ddweud wedi digwydd dros y canrifoedd. Ydych chi wedi clywed y stori enwog amdano yn hel yr holl nadroedd o Iwerddon...?!
Mae celwydd yn gallu troi yn ffaith yn eithaf hawdd.
Ond pam ewn ni i boeni am y fath beth â'r gwir? Mae'n eithaf braf medru hawlio nawddsant gwlad arall.
A hyd yn oed os nad oedd o'n Gymro (a phwy all brofi un ffordd neu'r llall erbyn hyn?) mae'n esgus i gael peint o'r stwff du, beth bynnag.
Sláinte!
Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol ym mis Mawrth 2018
Hefyd o ddiddordeb: