Pwy yw'r 'gweithwyr allweddol' wrth ymateb i coronafeirws?

  • Cyhoeddwyd
doctoriaidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae staff meddygol ymhlith y rhai mwyaf allweddol yn ystod y cyfnod hwn

Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi rhestr o "weithwyr allweddol" sy'n parhau i fynd ati gyda'u swyddi yn ystod argyfwng coronafeirws.

Mae'r rhestr yr un peth ar gyfer Cymru, ac yn cynnwys gweithwyr mewn meysydd fel iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, cyflenwi bwyd, a diogelwch.

Er bod ysgolion ar draws y wlad yn paratoi i gau ddydd Gwener, mae'r llywodraeth wedi gofyn iddyn nhw barhau i fod ar agor i blant sydd â rhiant yn gweithio yn un o'r sectorau allweddol.

Os ydy eu hysgol leol wedi cau yn llwyr, dywedodd y llywodraeth y byddai'r awdurdod lleol yn gallu cyfeirio rhieni at ysgol gyfagos fyddai'n medru edrych ar ôl eu plant.

Ond maen nhw wedi pwysleisio y dylid ond gwneud hyn os oes wir raid, ac mai'r peth gorau er mwyn atal ymlediad yr haint ydy fod plant yn aros adref pryd bynnag sy'n bosib.

Dyma'r meysydd sydd wedi'u clustnodi gan y llywodraeth fel rhai "allweddol" yn ystod yr argyfwng Covid-19 - mae'r rhestr yn cynnwys, ond ddim yn gyfyngedig i, weithwyr yn y sectorau canlynol:

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae hyn yn cynnwys doctoriaid, nyrsys, bydwragedd, parafeddygon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr gofal, ac unrhyw weithwyr iechyd rheng flaen eraill sydd yn helpu i gynnal y gwasanaeth, gan gynnwys y rheiny sy'n helpu i gyflenwi a dosbarthu offer, nwyddau a meddyginiaeth.

Addysg a gofal plant

Staff meithrin a dysgu, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr addysg arbenigol.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bydd plant gweithwyr allweddol yn cael parhau i fynd i'r ysgol hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gau'n swyddogol

Gwasanaethau cyhoeddus allweddol

Pobl sy'n allweddol er mwyn rhedeg y system gyfiawnder; staff crefyddol; gweithwyr ac elusennau sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen; pobl yn ymwneud â thrin y meirw; newyddiadurwyr a darlledwyr o wasanaethau darlledu cyhoeddus.

Llywodraeth genedlaethol a lleol

Dim ond gweithwyr gweinyddol ble mae eu gwaith yn hanfodol ar gyfer ymateb i Covid-19 neu ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel talu budd-daliadau, gan gynnwys asiantaethau llywodraeth a chyrff hyd braich.

Bwyd a nwyddau hanfodol eraill

Pobl sy'n ymwneud â chynhyrchu, prosesu, dosbarthu, gwerthu a chludo bwyd, a phobl sy'n allweddol ar gyfer nwyddau pwysig eraill (fel meddyginiaethau hylendid a milfeddygol).

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gweithwyr yn y sector cyflenwi bwyd, fel archfarchnadoedd, yn parhau i weithio drwy'r cyfnod

Diogelwch cyhoeddus a chenedlaethol

Swyddogion heddlu a staff cynorthwyol; gweithwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn gan gynnwys y lluoedd arfog; swyddogion tân ac achub; staff yr Asiantaeth Droseddau Cenedlaethol; swyddogion diogelwch ffiniau; staff carchardai a swyddogion prawf; swyddi diogelwch cenedlaethol eraill gan gynnwys dramor.

Trafnidiaeth

Gweithwyr fydd yn cadw cysylltiadau trafnidiaeth awyr, dŵr, ffordd a rheilffordd i fynd yn ystod yr ymateb coronafeirws, gan gynnwys yn y system gyflenwi.

Cyflenwadau, cyfathrebu a gwasanaethau ariannol

Staff hanfodol ar gyfer gwasanaethau ariannol (gan gynnwys gweithwyr banc a chymdeithasau adeiladu, a marchnadoedd ariannol); gweithwyr sectorau olew, nwy, trydan, dŵr a charthion; y sector technoleg gwybodaeth a data; staff allweddol yn y diwydiannau niwclear, cemegol, cyfathrebu; gwasanaethau post a thalu; sector gwastraff.