Coronafeirws: Gweithwyr siopau 'yn cael eu sarhau'

  • Cyhoeddwyd
SiopFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o siopwyr wedi wynebu silffoedd gwag yn sgil argyfwng Covid-19

Mae gweithwyr mewn archfarchnadoedd yn dweud eu bod wedi wynebu sarhad a hiliaeth wrth i siopwyr heidio yno yn sgil argyfwng coronafeirws.

Dywedodd un gweithiwr yng Nghaerdydd bod siopau wedi bod yn "wallgof" a'i fod wedi cael effaith negyddol ar ei hiechyd meddwl.

Yn ôl Usdaw, yr undeb sy'n cynrychioli gweithwyr mewn siopau, mae'r staff yn "chwarae rôl allweddol yn helpu'r wlad trwy'r argyfwng" ac mae angen eu cefnogi.

Maen nhw wedi galw am wneud mwy i sicrhau nad yw staff siopau bwyd yn cael y feirws tra'n gweithio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai archfarchnadoedd yn agor i bobl hŷn neu fregus yn unig ar rai cyfnodau

Dywedodd gweithiwr mewn siop Co-op yng Nghaerdydd ei bod wedi wynebu hiliaeth gan un cwsmer.

"Roedd yn gweiddi arna i fod y feirws wedi'i achosi gan bobl Chineaidd, a bod ganddo hawl i ryddid barn - roedd e'n erchyll," meddai.

'Pobl mor hunanol'

Ychwanegodd un gweithiwr Tesco yn y brifddinas: "Mae gweithio yma'r wythnos hon wir wedi effeithio ar fy iechyd meddwl.

"Mae pobl mor hunanol. Mae hi wedi bod yn wallgof yma gyda'r holl brynu mewn panig.

"Rydyn ni wedi gweld y gwaethaf mewn pobl yr wythnos hon - does dim synnwyr yn y peth."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae undeb Usdaw yn dweud bod angen gwneud mwy i amddiffyn gweithwyr archfarchnadoedd

Dywedodd Usdaw bod eu haelodau yn delio â galw eithriadol o uchel, ac yn dod i gyswllt â channoedd o bobl pob dydd.

Galwodd yr undeb ar gwsmeriaid i gymryd camau er mwyn lleihau'r risg o basio unrhyw heintiau i weithwyr mewn siopau.

"Mae angen trin ein haelodau gyda'r cwrteisi a'r parch maen nhw'n ei haeddu," meddai'r undeb mewn datganiad.

"Golchwch eich dwylo cyn mynd i siopa, cadwch draw o'r staff a cheisiwch dalu gyda cherdyn os yn bosib, yn hytrach nac arian parod."

Cyfyngu ar oriau

Mae nifer o archfarchnadoedd wedi cyfyngu eu horiau er mwyn ail-stocio silffoedd pan nad oes cwsmeriaid er mwyn diogelu staff, ac mae eraill yn defnyddio staff diogelwch.

Mae rhai yn cyfyngu pobl i brynu tri yn unig o unrhyw gynnyrch, ac yn agor i bobl hŷn neu fregus yn unig ar rai cyfnodau.