Corona ef yn ben

  • Cyhoeddwyd

Rwyf wedi bod yn ceisio meddwl am reswm i ddefnyddio'r bennawd uchod am sbel. Roedd gen i bennawd bachog ond dim erthygl i fynd gyda hi gan fod bron popeth sydd i ddweud am y firws melltigedig yma wedi ei ddweud gan rywun yn rhywle.

Fel mae'n digwydd ces i ragflas o'r hyn oedd i ddod wrth deithio yn ôl o Sydney i Gaerdydd ym mis Chwefror, taith oedd yn golygu newid awyren yn ne Tsieina ac yn Amsterdam.

Hyd yn oed bryd hynny roedd nifer yr ehediadau rhwng Awstralia a Tsiena wedi ei thorri o ryw gant a hanner yr wythnos i ugain ac roedd teithio ar un ohonynt yn brofiad swreal braidd.

Dim ond rhyw hanner cant o deithwyr oedd ar yr awyren gyda phob un yn eistedd yn ei res ei hun a gwisgo mygydau'n orfodol.

Roedd Maes Awyr Guangzhou sydd, gan amlaf, ymhlith y prysuraf yn Asia, i bob pwrpas yn wag a pob ehediad ac eithrio tair wedi eu canslo. Diolch byth, roedd y gwasanaeth i Amsterdam yn un o'r tair.

Ac yna, dyma fi'n cyrraedd Schipol i ganfod... dim byd o gwbl.

Mae'n bosib bod 'na fesurau hylendid ychwanegol wedi eu cymryd ond doedden nhw ddim yn amlwg ar roedd y bws y mae KLM yn defnyddio i gludo chi i'ch awyren yr un mor orlawn ac arfer.

Doedd dim arwydd bod unrhyw beth wedi newid ym Maes Awyr Caerdydd chwaith.

Mae 'na lawer o sôn y dyddiau hyn am arafu lledaeniad y firws er mwyn rhoi amser i'r gwasanaeth iechyd addasu er mwyn cwrdd â'r galw sydd i ddod. Mae ffatrïoedd yn cael ei haddasu i gynhyrchu fentilators meddygol a distyllfeydd yn troi o gynhyrchu jin i gynhyrchu jel glanweithio.

Mae'n rhaid gofyn, fi'n meddwl, pam mai dim ond nawr y mae'r pethau hynny'n digwydd?

Mae'n anodd osgoi'r casgliad efallai bod Tsieina wedi prynu amser i ni a bod ninnau yn Ewrop heb ei ddefnyddio'n arbennig o dda.

Fe ddaw'r amser i farnu a beirniadu ar ôl i'r argyfwng ddirwyn i ben. Am nawr, y peth gorau i wneud yw ymddiried yn ein llywodraethau a dilyn eu cyngor nhw ond, ar ôl hyn oll, fe fydd 'na gwestiynau i'w hateb.