Yr hawl i holi
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos ein bod wedi cyrraedd trobwynt yn y pandemig yma neu o leiaf trobwynt yng ngwleidyddiaeth y peth.
Os ydych chi'n ddigon dewr i fentro i'r siop gornel heddiw mae tudalennau blaen y papurau newydd yn adrodd cyfrolau. Yn ddieithriad maent wedi troi ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig oherwydd y diffyg profion sydd ar gael i ganfod y firws.
Mae'n "siambyls" yn ôl y Mirror ond efallai bod hynny i'w ddisgwyl. Yn fwy anarferol mae'r papurau hynny sydd gan amlaf yn fanzines i'r llywodraeth yn hallt eu beirniadaeth.
"Questions without answers" yw'r pennawd yn y Telegraph tra bod y Mail yn dweud y dylai'r diffyg profion codi cywilydd ar weinidogion.
Methiant Llywodraeth y DU i sicrhau'r profion angenrheidiol yn ystod y cyfnod rhyfedd hwnnw lle'r oedd cyngor y WHO yn cael ei anwybyddu a'r pwyslais yn cael ei roi ar imiwnedd haid sydd wrth wraidd y feirniadaeth, ond nid llywodraeth San Steffan yw'r unig un sydd â chwestiynau i'w hateb.
Mae'n ymddangos i mi nad oedd Llywodraeth Cymru yn argyhoeddedig bod Downing Street yn cymryd y camau cywir. Am y rheswm yna, mae'n debyg, fe wnaeth llywodraeth y Bae sicrhau bod modd cynnal 6,000 o brofion bob dydd neu, yn hytrach, dyna oedd gweinidogion yn credu eu bod wedi gwneud.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod cwmni Roche wedi cytuno'n ysgrifenedig i ddarparu'r profion. Mae Roche yn gwadu hynny.
Mae gan bobl Cymru'r hawl i wybod y gwir. Dylai'r llywodraeth gyhoeddi'r cytundeb er mwyn i bawb gael ei weld.
Yn lle hynny, mae'r llywodraeth wedi bod yn gyndyn iawn i fanylu.
Am ddyddiau lawer gwrthododd Vaughan Gething gadarnhau mai Roche oedd y cwmni er bod hynny'n ddigon hysbys ymysg staff y gwasanaeth iechyd.
Cafwyd cadarnhad yn y Cynulliad ddoe mae Roche oedd y cwmni ond doedd yna ddim eglurdeb ynghylch pam yr oedd y cynllun wedi methu ac a oedd a wnelo un o asiantaethau Llywodraeth y DU, Public Health England, rywbeth â'r methiant hwnnw.
Dyma ran o gwestiwn gan Adam Price.
"...specifically, can you address this suggestion that I've heard from several sources inside Wales, several sources outside of Wales, that one of the reasons that the deal with the Welsh Government collapsed was because of a parallel deal with Public Health England? Now, either that is true or it isn't true, and it's causing a lot of anxiety and some anger in some places. If it isn't true, dispel that now, First Minister, by saying so, or at least tell us what you know as to why this deal collapsed."
Mae Public Health England yn gwadu'r cyhuddiad gyda llaw ond penderfynodd Mark Drakeford beidio ei wadu na'i gadarnhau yn y Cynulliad ddoe. Dyma oedd ganddo i ddweud.
"...we did have a deal; it was a deal that we had; it was with Roche. We believe that it was a deal that ought to have been honoured... Truthfully, what I believe patients are interested in is that testing will be available, that staff can be tested and go back to work, and some of the detail of how that came about is not, I think, uppermost in the minds of people who need that testing."
Efallai'n wir fod Mark Drakeford yn gywir yn hynny o beth ond fe fydd yn rhai ateb y cwestiwn rhywbryd a dyma pam.
Dadl fawr Mark ac eraill dros barhau'n rhan o'r Deyrnas Unedig yw ein bod ni'n rhannu risg gyda'r cenhedloedd eraill, bod ni'n "gryfach gyda'n gilydd" mewn geiriau eraill.
Os daw hi'n eglur bod un o asiantaethau Llywodraeth y DU wedi gweithredu er budd pobl Lloegr ac yn groes i fudd pobl Cymru, a hynny ar ganol argyfwng, fe fydd y ddadl honno'n swnio'n rhyfeddol o wag.