A fo ben: Pwy sydd mewn grym?

  • Cyhoeddwyd

Ychydig iawn o wledydd sydd heb gyfansoddiad ysgrifenedig a'r Deyrnas Unedig yw'r mwyaf ohonynt. Cewch chi farnu p'un ai ydy San Marino a Saudi Arabia yn gwmni da ai peidio!

Wrth gwrs mae rhannau o'n cyfansoddiad yn ddeddf gwlad gan gynnwys, er enghraifft, rôl a swyddogaethau'r seneddau a llywodraethau datganoledig.

Os ydych chi eisiau gwybod beth yw union gyfrifoldebau a grymoedd Prif Weinidog Cymru felly, y cyfan sy'n rhaid gwneud yw darllen deddf Llywodraeth Cymru.

Mae rôl Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y llaw arall yn aneglur tost. I'r diweddar Arglwydd Hailsham roedd y Prif Weinidog yn "unben etholedig" ond y disgrifiad y clywir amlaf yw mai e neu hi yw'r cyntaf ymhlith y cyfartal.

Y cyfartal yw'r cabinet a rôl y Prif weinidog yw arwain yr aelodau at gonsensws y gall pawb sy'n eistedd wrth y bwrdd fyw gydag e. Os ydy aelod yn gwrthod derbyn y consensws y mae'r Prif Weinidog wedi ei lunio, wel, caewch y drws ar y ffordd mas.

Mae cymeriad a chrebwyll y Prif Weinidog yn cyfri felly.

Mae fy nghyfaill Guto Harri wedi gwneud y pwynt droeon fod hyblygrwydd ideolegol Boris Johnson wedi bod o fantais iddo yn ystod yr argyfwng presennol. Rwy'n meddwl bod Guto yn llygad ei le.

Mae'n anodd dychmygu, Margaret Thatcher, er enghraifft, yn ymateb i'r argyfwng presennol trwy gofleidio syniadau asgell chwith fel y mae Boris Johnson wedi gwneud. Mae Dominic Raab, dybiwn i, yn debycach i Thatcher na Johnson gyda daliadau asgell dde gadarn.

Ond os ydy grymoedd Prif Weinidog y DU yn aneglur mae 'na niwl trwchus yn amgylchynu statws person sy'n dirprwyo drosto, yn enwedig os nad yw hwnnw'n ddirprwy Brif Weinidog swyddogol, fel yn achos Mr Raab.

Cyn iddo ynysu ei hun y bore 'ma dyma oedd gan Michael Gove, Gweinidog Swyddfa'r Cabinet i ddweud am y sefyllfa.

"It will be the case that we will take that decision collectively as a cabinet... the person who will make the final decision is... the foreign secretary."

Ar yr olwg gyntaf, mae Mr Gove yn gwrth ddweud ei hun.

Yr hyn mae'n ceisio ei ddweud, rwy'n meddwl, yw mai dyletswydd Mr Raab yw cyflawni rôl y Prif Weinidog trwy arwain y cabinet at gonsensws. Rwy'n meddwl taw dyna yw ystyr y geiriau ond maen nhw'n bell o fod yn eglur ac, ar y foment hon, onid yw eglurdeb yn holl bwysig?

Pwy sydd wrth y llyw yw'r cwestiwn amlwg ac mae'n haeddu ateb.