Trwy ofer esgeulustod

  • Cyhoeddwyd

Mae yna rywbeth Beiblaidd bron am yr amseroedd yr ydym yn byw ynddyn nhw. Mae'n teimlo fel pe bai pedwar marchog llyfr y Datguddiad ar garlam o'n cwmpas. Salwch a marwolaeth bid siŵr ac mae 'na hen ddigon o ryfeloedd hefyd wrth gwrs. Yna lawr yn Affrica mae pla o locustiaid, ie, locustiaid yn bygwth newyn.

Ewch chi ddim yn fwy Beiblaidd na locustiaid!

Fe ddaw dydd y farn fawr hefyd pan elwir llywodraethau i gyfri am yr hyn a wnaethon nhw a'r hyn wnaethon nhw fethu gwneud yn ystod cyfnod y Covid.

Un maes lle mae 'na gwestiynau enfawr i'w hateb yw methiant llywodraethau'r Deyrnas Unedig, fel ei gilydd, i gynnal rhagor o brofion.

Yma yng Nghymru addawyd y byddai y byddai 5,000 o brofion yn cael eu cynnal bob dydd erbyn canol mis Ebrill, sef nawr. Methwyd a chyrraedd y targed hwnnw.

Ar hyn o bryd mae gan Gymru'r gallu i gynnal 1,300 o brofion bob dydd ond dyw hyd yn oed y cyfan o rheiny ddim yn cael eu cynnal oherwydd methiannau yn y system i gyfeirio gweithwyr iechyd a gofal i'r canolfannau.

Roedd y ffaith bod y ganolfan profi yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar gau ar Ddydd Llun y Pasg yn drychineb i Lywodraeth Cymru o safbwynt ei chysylltiadau cyhoeddus a hyder y cyhoedd.

Nawr, mae llywodraeth Cymru yn cyfaddef fod 'na broblemau wedi bod ac mae dweud bod 'na gystadleuaeth fyd-eang am brofion yn wir. Nid esgusodion ond rhesymau sy'n cael eu cynnig.

Serch hynny, erys y ffaith bod rhai llywodraethau tramor wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus wrth ddelio a'r argyfwng na rhai'r DU.

Cymerwch dalaith De Awstralia fel esiampl, rhan o'r byd fi'n nabod yn dda a lle mae gen i ffrindiau rhai yn wleidyddion ac eraill yn gweithio ym maes iechyd.

Cafodd yr achos cyntaf o'r coronafirws ei ganfod ar yr ail o Chwefror, pedair wythnos cyn yr achos cyntaf yng Nghymru. Sut maen nhw'n cymharu erbyn hyn? Yn Ne Awstralia, sydd a thua hanner poblogaeth Cymru cafwyd 433 o achosion gyda phedwar yn marw. Yng Nghymru, y ffigyrau cyffelyb yw 5,848 a 403.

Hynny yw, mae gan Gymru bron cymaint o farwolaethau ac sydd gan Dde Awstralia o achosion a hynny er bod y firws wedi cyrraedd y dalaith fis cyn iddi ein cyrraedd ni.

Pam y gwahaniaeth? Mae'r ateb yn syml. Profi, profi a rhagor o brofi, yna ynysu a chanfod cysylltiadau.

Hynny yw, fe wnaeth De Awstralia ddilyn cyngor y WHO yn hytrach na gwrando ar ddynion hysbys y nudge units a'r modelwyr cymdeithasol.

Mae gan Dde Awstralia 54 o ganolfannau profi a rheiny'n agored i bawb. Ambell i ganolfan ar gyfer gweithwyr rheng flaen yn unig sy 'na yng Nghymru. Dyna'r gwahaniaeth

Ar ddiwedd hyn oll fe fydd 'na rai yn ceisio ein hargyhoeddi bod 'na rywbeth anorfod ynghylch y pandemig a'r holl farwolaethau yna. Doedd 'na ddim. Mae De Awstralia yn brawf o hynny.

Trwy ofer esgeulustod y gwylwyr ar y twr y digwyddodd hyn.