Airbus i gynhyrchu llai oherwydd pryderon coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
awyrenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diwydiant awyrofod yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru

Daeth cadarnhad gan gwmni Airbus eu bod wedi rhyddhau 500 o staff dros dro o'u gwaith yn ffatrioedd Brychdyn, Sir y Fflint a Filton ger Bryste.

Roedd gweddill y gweithlu eisoes wedi cael gwybod y byddai eu hoe dros y Pasg yn cael ei ymestyn nes 14 Ebrill, ac mae Airbus nawr wedi ymestyn hynny ymhellach nes 20 Ebrill.

Dywed y cwmni eu bod wedi cwtogi oriau cynhyrchu gan fod llai o alw am adenydd sy'n cael eu gwneud yng Nghymru i'r awyrennau sy'n cael eu rhoi at ei gilydd yn Sbaen, Ffrainc a'r Almaen.

Mae'r safle ym Mrychdyn, Sir y Fflint yn cynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau'r cwmni ac yn cyflogi 6,000 o weithwyr.

Dywedodd Peter Hughes, ysgrifennydd rhanbarthol undeb Unite, fod gweithwyr wedi cael gwybod mai'r rheswm am y penderfyniad yw nad oes modd sicrhau pellter o ddau fetr rhwng pobl yn y gweithle.

Does dim sicrwydd eto faint o swyddi parhaol fydd hyn yn effeithio.

Rhybudd gan y diwydiant

Daw'r newyddion yn sgil rhybudd gan fudiad sy'n cynrychioli cwmnïau yng Nghymru y bydd hi'n cymryd o leiaf dwy flynedd i'r diwydiant awyrofod ddychwelyd i'r un sefyllfa ag yr oedd cyn i coronafeirws daro.

Mae cwmnïau sydd yn rhan o'r diwydiant yn cyflogi 23,000 o weithwyr mewn 160 o fusnesau yma, sydd yn gwasanaethu awyrennau ac yn cynhyrchu rhannau.

Dywedodd John Whalley o Aerospace Cymru bod y cwymp dramatig mewn hediadau yn her gwirioneddol i rai cwmnïau Cymreig.

Ychwanegodd mai'r pryder fwyaf yw "ar ôl dod drwy'r argyfwng, wrth ailgydio ynddi, sut fath o fyd fydd hi? Dyna'r her dwi'n meddwl."

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r diwydiant yn creu miloedd o gyfleoedd am swyddi sgiliau uchel a hyfforddiant o'r safon uchaf.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Effaith enfawr

Yn ôl Mr Whalley: "Mae profiad blaenorol SARS a 9/11 yn dangos i ni bod [y diwydiant awyrofod] yn gallu gwella.

"Mae hyn am gyfnod hirach a dyfnach, ond dwi yn meddwl y bydd teithio awyr yn dychwelyd, efallai y bydd rhai busnesau yn trefnu mwy o gynadleddau fideo.

"Ar y cyfan fe fydd pobl am deithio, felly fe fydd yna adferiad, ond fe allai gymryd cwpl o flynyddoedd i ddychwelyd i'r lle roedden ni ychydig wythnosau yn ôl."

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr mae Spectrum Technologies yn cyflogi bron i 60 o beirianwyr gyda sgiliau arbenigol, a dylunwyr meddalwedd sydd yn gweithio ar systemau cymhleth i weirio awyrennau.

Mae'r cwmni yn gwerthu i gynhyrchwyr awyrennau a'u cyflogwyr.

Mae'r prif weithredwr Peter Dickinson hefyd wedi cymharu effaith coronafeirws ar y diwydiant â'r hyn ddigwyddodd wedi cyflafan 9/11.

Ffynhonnell y llun, Peter Dickinson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Peter Dickinson yn rhaglweld cyfnod o ansicrwydd wedi'r pandemig - i gwmnïau ac i deithwyr

Dywedodd: "Tra bod awyrennau wedi cael eu gorfodi i aros ar y ddaear am dri diwrnod adeg 9/11, dyw awyrennau bellach ddim wedi hedfan ers sawl wythnos, gan golli arian mawr [i'r cwmnïau awyrennau] ac mae hi'n gwestiwn o pryd bydd y cyhoedd am deithio eto."

Mae ganddo hefyd rybudd am effaith yr argyfwng.

"Sut bydd modd cysuro pobl y gallan nhw fynd ar awyren a chyrraedd pen eu taith heb gael eu heintio gan y feirws? Ac os nad ydi pobl yn dechrau teithio eto, mewn niferoedd sylweddol, mae'n mynd i gael effaith enfawr ar gwmnïau hedfan."

Mae Spectrum Technologies wedi rhoi 20 o'u gweithlu ar gynllun y llywodraeth sydd yn talu 80% o'u cyflog, ac yn talu y gweddill eu hunain.

Swyddi yn y fantol

Mae Cymdeithas Rhyngwladol Teithio Awyr (IATA) wedi rhybuddio y gallai 5.5m o swyddi fod yn y fantol yn Ewrop, a hyd at 25m mewn peryg ar draws y byd oherwydd llai o alw am deithio ar awyrennau.

Ychwanegodd y Gymdeithas mai'r misoedd rhwng Mawrth a Mehefin yw'r rhai mwyaf hanfodol i'r diwydiant, a bod disgwyl gostyngiad o 70%.

Mae'r diwydiant yn chwarae rhan bwysig iawn yn economi Cymru gyda nifer eang o gwmnïau yn rhan o'r gadwyn gyflenwi.

Dywed Llywodraeth Cymru bod y diwydiant yn creu miloedd o gyfleon i weithwyr gyda sgiliau uchel, yn ogystal â hyfforddiant o'r radd flaenaf, gwaith ymchwil blaengar ac arloesedd.