Dacw ti yn eistedd

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na aderyn du i bob brân neu felly maen nhw'n ei ddweud ond gyda chwmwl o frain yn crawcian o'n cwmpas mae adar duon yn teimlo'n brin iawn rhywsut.

Des i ar draws un ddoe.

Fy hoff ddiod ers i mi fod yn fach iawn yw ysgytlaeth leim. Mae'n flas sy'n dwyn i gof gwyliau hir yr haf yn Nhrefdraeth a hangofers cythreulig mewn Eisteddfodau lle'r oedd carafan y Bwrdd Marchnata Llaeth yn cynnig moddion i'r pen tost gwaethaf.

Tipyn bach fel penodau o Doctor Who ar y teledu, mae ysgytlaeth leim yn tueddu mynd a dod. Mae'n diflannu am flynyddoedd cyn ailymddangos yn ddisymwth. Mae 'na fforymau cyfan ar y we yn trafod y ffenomen!

Y tro diwethaf i'r ambrosia nefol ymddangos oedd yn Morrisons rhyw bum mlynedd yn ôl. Prynais hanner dwsin o botelu o'r surop ar y pryd a barodd y rheiny am ryw flwyddyn.

Ers hynny, dim byd, ac nid fi yw'r unig un sy wedi bod yn glafoerio ac ysgyrnygu fy nannedd!

Ond beth yw'r rhain? Ar silffoedd Asda "for a limited period only"? Ie, y poteli gwyrdd cyfarwydd. Fedrai ddim dweud wrthoch chi mae mor hapus oeddwn i o'u gweld nhw a hynny ar ganol cyfnod mor dywyll.

Ac mae 'na newyddion da o gwmpas os ydyn ni'n fodlon chwilio am y straeon hynny yng nghanol y cymylau duon.

Dyna i chi'r gamp, gwyrthiol bron, o adeiladu'r ysbytai maes yn Stadiwm y Principality ac ar draws Cymru. Mae'n newyddion da eu bod nhw yna, ond hefyd yn newyddion da nad ydynt wedi gweld fawr o ddefnydd.

Ond os oes 'na dderyn du i bob brân mae 'na frân i bob deryn du hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru yn teimlo tipyn o falchder ynghylch yr ysbytai maes, ac yn haeddiannol felly, ond mae 'na deimlad hefyd bod canolbwyntio ar y rheiny wedi arwain at gymryd y llygad oddi ar y bêl o safbwynt cyflenwadau PPE.

Roedd gan Lywodraeth Cymru stoc helaeth iawn o wisgoedd ac offer diogelwch ond doedd neb yn disgwyl iddi ddylifo allan i'r graddau y gwnaeth hi.

Un o'r rhesymau am hynny oedd y penderfyniad y byddai Llywodraeth Cymru, yn wahanol i'r hyn oedd yn digwydd yn Lloegr, yn darparu PPE nid yn unig i'r gwasanaeth iechyd ond i'r sector gofal hefyd.

Mae oddeutu 40% o'r stoc wedi mynd i weithwyr gofal a phan ddaw dydd y cyfri rwy'n siŵr mai penderfyniad Llywodraeth Cymru fydd yn cael ei ystyried yn gywir.

Aderyn du arall efallai.