Ymchwilen yn ei ben

  • Cyhoeddwyd

Ar ddiwedd hyn oll fe fydd 'na ymchwiliad. Gallwn fod yn saff o hynny, ond mae pa ffurf y bydd ar yr ymchwiliad hwnnw a sawl ymchwiliad y bydd 'na yn gwestiynau o bwys a does dim rheswm i ni beidio â dechrau eu trafod nawr.

Mae 'na sawl fath o ymchwiliad yn bosib. Gellid sefydlu Comisiwn Brenhinol, er enghraifft, ond mae'r rheiny allan o ffasiwn ar hyn o bryd yn y DU, er bod rhannau eraill o'r Gymanwlad yn dal i'w defnyddio nhw.

Y ffurf debycaf o ymchwiliad yw un wedi ei arwain gan farnwr neu arbenigwr gan ddefnyddio'r grymoedd a restrir yn Neddf Ymchwiliadau (2005) i alw tystion a gweld dogfennau.

Mae hyd ac effeithlonrwydd ymchwiliadau o'r fath yn amrywiol a dweud y lleiaf. Cymerodd yr ymchwiliad i gysylltiadau gweinidogion y DU a'r brodyr Hinduja chwe wythnos i gyrraedd casgliadau.

Ar y llaw arall, rhygnodd ymchwiliad i farwolaeth babanod mewn ysbytai yng Ngogledd Iwerddon ymlaen am dair blynedd ar ddeg.

Oddeutu dwy flynedd yw'r hyd ar gyfartaledd a gellid disgwyl i ymchwiliad i bwnc mor enfawr â'r pandemig bara am o leiaf hynny.

Ond ai un ymchwiliad sydd ei angen? Fe fyddai modd cynnal mwy nac un. Gellid gwahanu problemau wrth ddarparu PPE o weddill y saga, fel enghraifft, ond mae 'na beryg o ddyblygu trwy wneud hynny.

Ar Dros Ginio rhai wythnosau yn ôl fe wnes i awgrymu i'm hen gyfaill ysgol, Peter Watkin Jones, sydd wedi bod yn arbenigo yn y maes yma ers blynyddoedd, y gallasai 'na fod pedwar ymchwiliad ar wahân i bedwar gwlad y Deyrnas Unedig.

Barn Peter oedd y byddai hynny'n wastraffus gyda'r un tystion yn cael eu galw pedair gwaith ond mae'n poeni fi y byddai penderfyniadau ac ymddygiad Llywodraeth Cymru yn ymylol i ymchwiliad Prydain Gyfan.

Fe fydd gan Lywodraeth Cymru gwestiynau penodol i'w hateb pan ddaw'r amser. Dyma i chi ambell i enghraifft.

A roddodd Llywodraeth Cymru ormod o bwyslais ar sicrhau unffurfiaeth polisi rhwng y pedair cenedl?

Oedd gan Lywodraeth Cymru ddigon o gyngor annibynnol wrth lunio ac asesu polisïau, neu oedd hi'n orddibynnol ar gynghorwyr Llywodraeth y DU?

Beth yn union ddigwyddodd i'r profion Roche yna oedd i fod i ddod i Gymru? Ai Llywodraeth y DU wnaeth eu harallgyfeirio?

Cwestiynau yw'r rhain, nid cyhuddiadau. Mae 'na eraill hefyd, a dim ond mewn ymchwiliad penodol Cymreig y cânt eu hateb yn fy nhyb i.