Poni welwch chwi hynt
- Cyhoeddwyd
Pan benderfynodd Edward I gael gwared ar y ddraenen yn ystlys orllewinol Lloegr unwaith ac am byth bu'n rhai i'w luoedd dorri ffordd filltir o led trwy goedwigoedd y gogledd.
Coedwigodd Clwyd, nid mynyddoedd Eryri, oedd wrth wraidd cadernid Gwynedd. Yn y berfeddwlad yr oedd hi'n cael ei hamddiffyn, nid ar y ffin.
Byth ers hynny, ac eithrio yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, mae'r ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi bod yn agored a mwy neu lai'n anweledig. Yn wir, mae modd dadlau nad oedd hi'n bodoli o gwbl yn y cyfnod pan oedd Cymru yn rhan o deyrnas Lloegr.
Roedd 'na diriogaeth fechan o'r enw 'tywysogaeth Cymru' yn bodoli ond roedd ffiniau'r creadur truenus hwnnw yn wahanol iawn i'r rhai ry'n ni'n gyfarwydd â nhw heddiw.
Doeddwn i ddim yn credu y byswn i erioed yn ysgrifennu erthygl yn awgrymu y gallai'r ffin rhwng y ddwy wlad gael ei chau, o gofio bod cymaint o fynd a dod drosti.
Wedi'r cyfan, mae 48% o boblogaeth Cymru yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin, a 90% yn byw o fewn 50 milltir. Yr ochr draw i Glawdd Offa mae 4.9m o bobol yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin, ac 13.7m, pedair gwaith poblogaeth Cymru, yn byw o fewn 50 milltir.
Fe fyddai ond angen i ffracsiwn fechan iawn o'r 13.7 miliwn yna groesi'r ffin i danseilio holl ymdrechion Llywodraeth Cymru i cyfyngu ar lediad y coronafeirws ac achub bywydau.
Gadewch i ni beidio gweld bai ar ein cymdogion y tro hwn. Pan mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi eich bod â'r hawl i wneud rhywbeth, dyw e ddim yn afresymol i gymryd yn ganiataol bod ei eiriau yn berthnasol i'r cyfan o'r wladwriaeth sydd yn ei deitl.
Mae datganoli'n drysu hen ddigon o bobol Cymry - waeth i ni heb â disgwyl i'r Saeson gael eu pennau rownd y peth!
Beth sydd i wneud felly? Dyw ambell i arwydd ddim yn debyg o wneud llawer o wahaniaeth, ond fe fyddai blocio'r cannoedd o groesfannau bach a gosod plismyn i warchod y rhai mawrion yn heriol, a dweud y lleiaf, ac yn ymddangos yn eithafol ac annheg efallai i'n cymdogion yn y wlad drws nesaf.
Cafwyd rhagflas o'r fath o ymateb y gallasai ddod gan Aelod Seneddol Yr Amwythig ddoe. Dyma oedd gan y Ceidwadwr, Daniel Kawczynski, i ddweud wrth BBC Shropshire:
"The current gap emerging over this crisis results in the Prime Minister saying to my constituents you can now go for a walk on the beach, but you are prohibited from going across the frontier to get to our nearest coast...
"We must work towards another referendum to scrap the Welsh Assembly and return to one political system for both nations - a political union between England and Wales."
Llais unig yw Daniel Kawczynski ar hyn o bryd, ond fe fyddai cau'r ffin yn esgor ar alwadau tebyg gan eraill, yn fy nhyb i.
Hwn, rwy'n meddwl, yw un o'r penderfyniadau mwyaf anodd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wynebu erioed. Fe gawn weld yfory a oes 'na Solomon yn y Bae sy'n gallu datrys y pos!
Yn y cyfamser, wythnos ar ôl i Gymru gael ei senedd gyntaf ers dyddiau Glyndŵr, mae'n bosib y bydd hi'n cael ei ffin galed gyntaf hefyd.
Mewn rhyw ogof yn rhywle, mae 'na ddyn barfog yn cysgu gyda gwên ar ei wyneb!