Cymru, Lloegr a Llanrwst
- Cyhoeddwyd
Dyma gwestiwn i chi. Pryd ychwanegwyd y llythyren J i'r wyddor Gymraeg?
Doedd hi ddim yna pan oeddwn i'n grwt, rwy'n siŵr o hynny. Mae hi yna nawr. Rwy'n sicr o hynny hefyd. Mae hi yng nghân yr wyddor ar Cyw ac ewch chi ddim yn fwy swyddogol na hynny.
Pwy sy'n penderfynu'r pethau yma dywedwch? Geiriadur y Brifysgol? O bosib. Canolfan Bedwyr? Efallai. Ysbryd William Owen Pughe? Annhebyg.
Rwyf ond yn codi'r peth oherwydd mae'r cyfan o'r pwt bach yma'n ymwneud â llythyren nad yw'n cael ei defnyddio yn y Gymraeg sef Z.
Er nad yw hi'n rhan o'n hiaith rwy'n amau bod Z neu, yn fwy penodol, y Z score, yn mynd i fod yn ganolog i'n discwrs gwleidyddol rhwng nawr ac etholiad flwydd nesaf.
Beth yw'r Z Score felly? Wel, ffordd o fesur effeithiau'r pandemig presennol mewn gwahanol wledydd yw hi. Mae'n cymharu nifer y marwolaethau sy'n digwydd dros gyfnod o amser â'r nifer y byddai ddisgwyl iddyn nhw farw pe na bai 'na bandemig.
Yr 'Excess Mortaliy Estimate' yw enw Saesneg yr amcangyfrif a thrwy ei roi trwy ambell i hŵp mathemategol cynhyrchir y Z Score.
Pam mae hwn yn bwysig? Cymru, Lloegr a Llanrwst yw'r ateb.
Yn ôl ymchwil, dolen allanol gan Brifysgol Rhydychen mae Z Scores Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn agos at y cyfartaledd Ewropeaidd. Hynny yw, mae effaith y pandemig ar y gwledydd datganoledig yn llawer llai na'r effaith ar yr Eidal neu Sbaen, dyweder.
Pam felly bod y Deyrnas Unedig â'r Z Score uchaf yn Ewrop gyfan? Un gair sydd i'r ateb sef Lloegr.
Tra bod Z Scores Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn agos y cyfartaledd mae un Lloegr wedi mynd trwy'r to.
Nawr, un mesur yn unig yw'r Z Score, ond oes angen dweud pa mor arwyddocaol y byddai hi i'n gwleidyddiaeth pe bai'r mesuriadau'n dangos bod y llywodraethau yng Nghaerdydd, Caeredin a Belfast wedi delio'n well 'da'r clefyd na'r un yn Llundain?
Mae "fe wnaethon ni gadw chi'n saff" yn gythraul o slogan etholiad.
Yr esboniad mwyaf tebygol am y gwahaniaeth yn ôl yr academyddion yw bod y cyfnod cloi wedi cychwyn jyst mewn pryd i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ond yn rhy hwyr i Loegr. Roedd y clefyd yn rhemp yn Llundain erbyn hynny.
A dyna'r eironi fwyaf efallai. Os oedd Y Deyrnas Unedig yn hwyr yn cychwyn y cyfnod cloi, y rheswm am hynny oedd ei bod hi wedi anwybyddu'r hyn oedd yn digwydd yn ei phrifddinas ei hun.
A phwy oedd wrth y llyw? Cyn Faer Llundain, wrth gwrs.