Peidiwch â marw o anwybodaeth
- Cyhoeddwyd
Rhywbryd yn yr 1980au cynnar fe ddaeth ffrind mawr i fy rhieni yn ôl i Gymru am y tro olaf i ffarwelio â'i deulu a'i gyfeillion.
Gŵr yn ei bedwardegau o Gastell Nedd oedd e ac roedd yn gwasanaethu'r lleiaf o'r rhai hyn fel offeiriad yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Washington DC.
Roedd e newydd dderbyn rhywbeth oedd yn gyfystyr â dedfryd o farwolaeth bryd hynny, sef diagnosis ei fod yn dioddef o Aids.
Rwy'n meddwl fy mod yn ymwybodol o Aids ar y pryd ond roeddem yn ei weld fel rhyw glefyd rhyfedd oedd wedi effeithio ar lond dwrn o bobol a hynny ar ochor arall Môr Iwerydd.
Mae hynny'n swnio'n gyfarwydd rhywsut.
Yn sicr yng nghlybiau a bariau hoyw Caerdydd, y Kings, Sirs a Hunters, roedd pobol yn poeni'n fwy am Herpes oedd yn rhemp yn y ddinas ar y pryd. Yn wahanol i Aids, doedd hwnnw ddim yn lladd ond roedd e'n boenus ar y naw ac roedd pawb yn nabod rhywun oedd wedi ei gael.
Ychydig fisoedd yn unig wedyn, roedd Aids wedi ein cyrraedd, jyst fel Covid-19, ac roedd Herpes mwy neu lai yn angof.
Rwy'n cofio rhywun yn dweud ar y pryd bod dawnsio yng nghlybiau hoyw Caerdydd yn teimlo fel bod yn y Kit Kat Club yn nyddiau olaf gweriniaeth Weimar. Roedd popeth yr oedd pobl hoyw wedi ennill dros y degawdau blaenorol o dan fygythiad. Roedd rhagfarnau, oedd wedi eu celu, mas yn yr agored eto ac roeddynt yn grasboeth.
Dyna'r gwahaniaeth mwyaf rhwng y pandemig Aids a'r un presennol.
Does dim stigma mewn cael Covid-19. Does neb yn beio'r claf am ei glefyd.
Yn ôl yn yr wythdegau, ar y llaw arall, i lawer roedd dioddefwyr Aids naill ai'n bobol 'ddieuog' oedd wedi eu heintio gan gynhyrchion gwaed. Neu yn bobol oedd rhywsut wedi dod â'r peth ar eu pennau eu hunan trwy rannu nodwyddau mewn lonydd cefn neu trwy wneud pethau ych-a-fi yn y gwely.
Mae'r gwahaniaeth yna'n bwysig ond efallai'r peth mwyaf diddorol wrth gymharu'r ddau bandemig yw beth ddigwyddodd wrth i un yr wythdegau fynd yn ei flaen.
Fel nawr, roedd 'na obeithion mawr y byddai brechlyn yn cael ei ganfod ond ofer fu'r ymdrech hyd heddiw.
Yr hyn a gafwyd ar ôl degawd a mwy oedd triniaethau i reoli'r cyflwr ac mae gwyddoniaeth ddiweddar yn awgrymu ein bod yn agos iawn at allu cynnig gwellhad llwyr.
Ond hyd yn oed cyn datblygu'r triniaethau roedd y pandemig wedi dechrau gostegu a hynny oherwydd newidiadau diwylliannol yn y grwpiau risg uchel. Llai o bartneriaid. Defnyddio condomau. Peidio rhannu nodwydd. Y pethau bychain wnaeth ddofi'r feirws.
Mae HIV ac Aids dal gyda ni ac yn lladd rhyw dri chwarter miliwn o bobol bob blwyddyn, y rhan fwyaf ohonyn nhw mewn gwledydd tlawd. Mae hynny'n fwy na dwbl y nifer sydd wedi marw o Covid-19 hyd yma.
Beth yw'r gwersi felly? Mae 'na sawl un ond y wers gyntaf, rwy'n credu, yw peidio cymryd yn ganiataol y bydd brechlyn yn cael ei ganfod neu fod 'na ffordd hawdd mas o'r picl yma.
Yr ail un yw bod newid arferion a newid diwylliant yn gallu gwneud gwahaniaeth a'r wers olaf yw bod y ddynolryw, yn y pendraw, yn ffeindio ffordd i jyst byw da pethau.