Ynghylch Dominic

  • Cyhoeddwyd

Fel mae'n digwydd mae dau o'n nghydnabod yn bobol oedd yn nabod Dominic Cummings pan oedd e'n fachgen bach. Mae un ohonynt, llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru, yn perthyn iddo ac roedd y llall, sy'n gyfnither i mi, arfer ei garco yn y ffermdy yna ar gyrion dinas Durham.

Mae darlun y ddwy ohono fe yn rhyfeddol o debyg. Bachgen oedd yn mynnu cael mwy o sylw na'r briodferch mewn priodasau teuluol oedd e, yn ôl y llais cyfarwydd, tra bod fy nghyfnither yn barnu ei fod yn ystyfnig fel mul ac yn ddigon parod i strancio er mwyn cael sylw.

Y bachgen yw tad y dyn, ond go brin fod hyd yn oed Dominic yn mwynhau'r sylw y mae'n cael ar hyn o bryd. O dan reolau arferol gwleidyddiaeth fe fyddai fe wedi hen fynd erbyn hyn. Does dim llawer o ots faint o sail sy' 'na i sgandal, os ydy stori'n hawlio sylw am ddyddiau lawer gyda ddim arwydd ei bod am ostegu, does dim dewis ond cael gwared â'r un sydd yn ei chanol.

Ond Dominic Cummings yw Jose Mourinho ein gwleidyddiaeth ni ac fel y gwyddom, dyw'r rheolau arferol ddim yn cyfri yn achos yr "un sbeshal"!

Ond pam felly? Faint o sail sy' 'na i'r gred fod Dominic Cummings yn rhyw fath o ddewin gwleidyddol sydd â rhyw ddealltwriaeth reddfol o'r etholwyr?

Yn sicr gellir priodoli buddugoliaeth y Maswyr yn refferendwm 2016 a buddugoliaeth y Ceidwadwyr yn etholiad y llynedd i dactegau Cummings, ond dyw'r tactegau hynny ddim yn arbennig o unigryw.

Maen nhw wedi bod yn arf effeithiol yn nwylo pleidiau asgell dde'r byd Eingl-Americanaidd ers rhai degawdau bellach. Maent yn seiliedig ar y defnydd o sloganau bachog i apelio at grŵp penodol o etholwyr.

Sloganau tri gair sydd orau. "Stop the Boats" ac "Axe the Tax" yn achos Awstralia, "Take Back Control" a "Get Brexit Done" yn achos y Deyrnas Unedig. O bryd i'w gilydd fe wnaiff slogan pedwar gair y tro. "Make America Great Again" efallai.

Mae sloganau fel y rhain yn gallu bod yn eang eu hapêl ar adegau ond hap a damwain yw hynny. Maen nhw wedi eu targedu at grŵp arbennig o etholwyr sy'n cael ei chyfri'n allweddol y dyddiau hyn. "Non-college educated whites" yw'r disgrifiad o'r grŵp yna yn seffoleg yr Unol Daleithiau.

Dydw i ddim yn meddwl ein bod wedi bathu term amdanyn nhw yn y Deyrnas Unedig eto ond maen nhw'n ddigon hawdd i'w canfod. Pobol sydd dros eu deugain ydyn nhw ar y cyfan, sydd heb ryw lawer o fanteision mewn bywyd ac eithrio dwy, sef eu bod nhw'n ddynion a'u bod nhw'n wyn.

Mae'r rhain yn bobol sy'n ofni bod y ddwy fantais sydd ganddyn nhw, eu rhyw a'u hil, o dan fygythiad gan ffeministiaeth, mewnfudo a llu o ffactorau eraill. Maen nhw'n hiraethus am fyd mwy syml, llai anhrefnus, lle'r oedd eu statws yn eglur.

Hyd y gwn i, does dim ymchwil wedi ei wneud i'r peth, ond rwy'n amau bod cefnogwyr Brexit yn poeni llawer mwy am bwy sy'n cael defnyddio pa doiled nac oedd cefnogwyr aros yn yr Undeb Ewropeaidd!

Rhain yw pobl Dominic. Dyw e ddim yn un ohonyn nhw, wrth reswm, ond mae fe yn eu deall nhw. Dyna, o leiaf yw'r fytholeg.

Ond, os felly, pam nad oedd y cynghorydd arbennig yn sylweddoli bod rhywun yn saff o'i weld yn Durham a Barnard Castle, a'u bod yn debyg o fod yn gynddeiriog ynghylch y peth? Oni ddylai fe o bawb wybod sut ymateb y byddai 'na i ymddygiad o'r fath?

A dyna'r dirgelwch. Mae sawl ffordd i weld Cummings. Gellir ei ystyried fel rhyw fath o Svengali, y Wormtongue sy'n sibrwd yng nghlust y Dewin Saruman, Boris Johnson yn yr achos yma. I'w edmygwyr, efallai, ef yw'r Myrddin i'r Arthur sydd yn Downing Street.

Ond mae'n bosib hefyd taw Dewin Oz sy' gyda ni yn fan hyn ac, o dynnu'r llen yn ôl, fe wnawn ni ganfod taw'r cyfan sydd yna yw bachgen bach oedd mo'yn sylw.