Ffoto T: Enillwyr yr adran iau

  • Cyhoeddwyd
Logo yr urddFfynhonnell y llun, Yr Urdd

Fel rhan o Eisteddfod T, sydd yn cael ei chynnal yr wythnos yma, gosododd yr Urdd a BBC Cymru Fyw her i chi, ffotograffwyr ifanc, i dynnu lluniau ar y testun 'Adref', ac mae'r safon wedi bod yn wych.

Roedd beirniad yr adran 13 oed ac iau, y ffotograffydd Iolo Penri, wir wedi plesio gyda'r lluniau ddaeth i law. Dyma'i sylwadau:

Derbyniwyd dros gant o luniau ac mae'n wych bod cystal ymateb wedi bod i'r gystadleuaeth hon. 

Roedd y safon uchel iawn ac mi ges i fwynhad gwirioneddol o edrych arnynt i gyd. Mae'n syndod sut y gall yr un testun ysgogi dehongliadau mor amrywiol a gwreiddiol. 

Braf oedd gweld bod cynifer o'r bobl ifanc wedi defnyddio'r cyfrwng mewn ffordd greadigol i gyflwyno'r testun, tra bod eraill wedi defnyddio dull mwy dogfennol i ddweud eu stori neu i ddiffinio beth yw ystyr 'Adref' iddyn nhw. 

 Yn y diwedd roedd yn rhaid dewis tri, felly dyma nhw'r enillwyr:

1af - Teifi Thomas, Ysgol Bro Teifi

Ffynhonnell y llun, Teifi Thomas

Llun sy'n defnyddio'r cyfrwng mewn ffordd greadigol i greu delwedd o adra, rŵan ac yn y gorffennol.

Mae Teifi wedi dewis hen lun teulu sydd ag ychydig o naratif iddo i'w gynnwys yn y ffrâm. Aiff hyn â ni'n ôl gyfnod arall gan lwyddo ar yr un pryd i awgrymu parhad.  

Mae'r lliwiau'n gweithio'n dda gyda'i gilydd a braf oedd gweld llun sy'n cyffwrdd mewn ffordd wahanol ar yr emosiwn o beidio â chael y teulu o gwmpas. 

2ail - Tomi Jac Regan, Ysgol y Dderi

Ffynhonnell y llun, Tomi Jac Regan

Llun difyr o dad mae'n debyg yn cael torri ei farf gan un o'i feibion. Mae'r llun yn dweud stori a'r ffocws yn berffaith ar yr ansicrwydd yn wyneb y tad a'r canolbwyntio yn wyneb y mab.

Ar adeg pan nad yw hi'n bosibl mynd at y barbwr a phan fod pawb yn gwneud pob math o bethau mwy anarferol adra, dyma lun sy'n berthnasol i'r testun ac i'r cyfnod rydym yn byw ynddo. Mae'n arwyddocaol mai'r mab sy'n torri barf y tad gan ddangos i'r dim fod pawb yn gorfod gofalu am ei gilydd. Rwyf hefyd yn hoff o'r awgrym o ysgafnder o geir yn y llun.

Rwy'n teimlo'n sicr bod y llun yn gweithio'n well mewn du a gwyn. 

3ydd - Alis Glyn, Caernarfon

Ffynhonnell y llun, Alis Glyn

Hunanbortread sy'n cyfleu diflastod merch ifanc sy'n ynysu adra.

Mae'r pose ar sil y ffenest a'r glaw tu allan yn ychwanegu at y teimlad o gaethiwed a rhwystredigaeth o beidio â chael mynd allan. Wrth gwrs mae'n arwyddocaol hefyd ei bod dal yn ei phyjamas. 

Mae'r defnydd o olau naturiol yn dod trwy'r ffenestr yn cryfhau'r mŵd breuddwydiol a tybed a oes yma awgrym o enfys. Dwi hefyd yn hoffi'r adlewyrchiad o'r ferch ar yr ochr draw i'r ffenestr.

Ai bwriad y rhifau ar yr ochr chwith isaf yw awgrymu amser yn mynd heibio? 

Llongyfarchiadau mawr i bawb!

Hefyd o ddiddordeb: