Asiffeta, General Picton
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwestiwn o bwy sy'n haeddu cael ei goffau yn y Gymru fodern yn un sy'n codi ei ben o bryd i gilydd.
Weithiau, mae'n gwneud hynny mewn ffordd bositif megis yn yr ymdrechion diweddar i gynyddu'r nifer o ferched a menywod sydd â chofeb gyhoeddus.
Ar adegau eraill mae'r drafodaeth yn un fwy negyddol. A ddylid cael gwared ar, neu symud, rhyw gofeb i'r hwn neu'r llall yw'r cwestiwn gan amlaf, ac yn amlach na pheidio mae'n ymwneud â'r cofebion i ddau ddyn - cofebion y Cadfridog Picton yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd, a cherflun H.M. Stanley yn Ninbych.
Mae'r tri achos ychydig yn wahanol i'w gilydd felly mae'n werth edrych arnyn nhw fesul un gan gychwyn gyda'r ddwy gofeb i Thomas Picton.
Mae Picton yn cael ei goffau am ei rôl yn rhyfeloedd Napoleon, yn enwedig ei ran yn rhyfeloedd y penrhyn o gwmpas Lisbon a brwydr Waterloo lle gafodd ei ladd.
Yr hyn sy'n gwneud Picton yn ffigwr dadleuol yw ei gyfnod fel llywodraethwr Trinidad lle mae 'na dystiolaeth ddigamsyniol o'i greulondeb tuag at gaethweision ac eraill.
Nid trwy sbectol gwerthoedd ein canrif ni rwy'n dweud hynny. Fe gafwyd Picton yn euog o arteithio merch ifanc gan lys barn er bod ail reithgor wedi gwyrdroi'r penderfyniad. Roedd yn berchen ar gaethweision ac fe gyfoethogodd ei hun trwy eu prynu a'u gwerthu. Dyw e ddim cweit yn haeddu'r teitl 'Colston Cymru' ond mae'n dod yn agos!
Beth am ei gofebion felly?
Colofn nid cerflun yw'r un yng Nghaerfyrddin. Mae'n goblyn o golofn hefyd ac un a fyddai'n anodd iawn i'w dymchwel yn ddiogel, dybiwn i.
Ond mae 'na ateb arall i'r broblem. Mae colofn yn gallu golygu beth bynnag y'ch chi mhoen iddi olygu. Does dim rheswm na ellir ei hail-bwrpasu i fod yn gofeb i ddioddefwyr caethwasiaeth, er enghraifft. Mae'n werth ystyried rhywbeth felly.
A beth am y cerflun o Picton yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd? Mae'n un o gyfres o gerfluniau a ddadorchuddiwyd gan Lloyd George yn 1916 i goffau arwyr Cymru ac a roddwyd yn rhodd i'r ddinas gan Arglwydd Rhondda.
Fe fyddai modd, rwy'n meddwl, dadlau dros gadw'r cerflun hwn fel rhan o 'snapshot' o bwy yr oedd trigolion y Gymru anghydffurfiol, Edwardaidd yn eu mawrygu.
Fe fyddai modd gwneud hynny oni bai am un peth
Y broblem yw mai imposter yw Picton yn oriel yr anfarwolion. Dyle fe ddim bod yn y pantheon yn y lle cyntaf!
Rwy'n ddiolchgar i Dylan Foster Evans am ein hatgoffa bod trigolion y Neuadd Farmor wedi eu dewis trwy bleidlais gyhoeddus a bod Picton wedi methu cyrraedd y trothwy.
Rwy'n tybio bod y rheiny wnaeth ennill yn griw rhy genedlaetholgar ac anghydffurfiol i gynghorwyr Gaerdydd. Efallai yn wir y byddai cael Pantycelyn a Griffith Jones, Llanddowror dros ben llestri braidd, felly mas aeth sylfaenydd yr ysgolion cylchynol ac mewn daeth y soldiwr yn ei le.
Oherwydd hynny rwy'n amau fod dyddiau'r cadfridog wedi eu rhifo. Pwy ddaw i lenwi ei le? Wel beth am ferch y gŵr wnaeth gyflwyno'r cerfluniau yn y lle cyntaf? Yn sicr mae'r Arglwyddes Rhondda yn haeddu ei choffau am ei brwydr lew dros hawliau merched.
Mae hynny'n dod a ni at Stanley yn Ninbych. Mae'n anodd credu bod y cerflun hwn ond yn ddeng mlwydd oed. Mae'r peth wedi bod yn ddadleuol o'r cychwyn cyntaf ac wedi mynd yn fwy felly dros y degawd diwethaf.
Mae cyfraniad Stanley i hil-laddiad y Brenin Leopold yn y Congo wedi bod yn hysbys i'r byd byth ers i'r newyddiadurwr ac ymgyrchydd E.D. Morel ei ddatgelu mewn cyfres o erthyglau yn 1900.
Un oedd yn byw ym Mhenarlâg oedd Morel ac mae'n anodd deall pam y mae Stanley yn cael ei fawrygu yn y gogledd ddwyrain a Morel wedi mynd yn angof bron.
Rhyfedd o fyd, fel maen nhw'n dweud!