Blog Vaughan Roderick: Traed Mewn Cyffion
- Cyhoeddwyd
Un o bentrefi bach Sir Benfro yw Trecŵn. Roedd gan y lle reilffordd ar un adeg ond fe gaeodd honno yn y 1930au. Fe barodd yr ysgol y "Barham Memorial School tan 2002 ac os ydy'r lle'n adnabyddus o gwbl mae hynny oherwydd y depo milwrol enfawr oedd arfer sefyll gerllaw.
Un heol sy'n mynd mewn a mas o Drecŵn sef "Barham Road," enw rhyfedd o Seisnigaidd ar heol yng Ngogledd Sir Benfro. Pwy neu beth oedd Barham felly?
Teulu o Loegr oedden nhw oedd wedi etifeddu stad Trecŵn trwy briodas. Buodd y tad a'r mab yn aelodau seneddol am gyfnod gan gynrychioli etholaethau yn Lloegr ond yn Nhrecŵn yr oedd eu prif gartref am dair cenhedlaeth.
Pam eu crybwyll nhw nawr felly? Wel, roedd y Barhams yn un o ryw nawdeg o deuluoedd yng Nghymru wnaeth dderbyn iawndal ar ôl i'r senedd yn San Steffan ddeddfu i ddileu caethwasiaeth yn 1833.
Mae'n adrodd cyfrolau am ein gorffennol ymerodrol ni taw'r perchnogion wnaeth gael eu digolledi. Doedd na'r un botwm crwn i'r rheiny oedd wedi dioddef dan y lach.
Fe dderbyniodd y Barhams 14,240 punt, 4 swllt a 7 ceiniog i'w digolledi am y 780 o gaethweision gafodd eu rhyddhau ar eu stadau yn Jamaica. Cynnyrch chwys talcen caethweision oedd y "Barham Memorial School" ond nid nhw oedd yn cael eu coffau ganddi.
Rwy'n crybwyll y Barhams oherwydd ein bod ni yng Nghymru weithiau yn anghofio pa mor ddwfn yr oedd y system gaethwasiaeth wedi treiddio i fywyd ein gwlad.
Mae'n wir nad oedd porthladdoedd Cymru yn ganolfannau i'r fasnach fochaidd mewn bodau dynol yn yr un modd a rhai llefydd eraill. Chwe theulu yng Nghaerdydd, er enghraifft wnaeth wneud cais am iawndal am gaethweision o gymharu â 262 ym Mryste.
Serch hynny, mae un o ffodusion Caerdydd sef Frances Batty Shand yn enw cyfarwydd yn y ddinas o hyd. Hi wnaeth sefydlu Sefydliad Deillion Caerdydd ac mor ddiweddar â 2018 fe ddywedodd cyfarwyddwr RNIB Cymru hyn amdani.
"Frances Shand's is an inspirational woman whose commitment to improving the lives of blind and partially sighted people is her greatest legacy."
Dim sôn yn y fan yna o ble'r oedd cyfoeth y Shands yn dod.
Mae 'na sawl enghraifft arall y gallwn eu rhestri. Mae rhai yn weddol adnabyddus fel teulu Castell Penrhyn neu Nathaniel Wells lawr yng Nghasgwent ond rwyf am orffen trwy fynd yn ôl i gyfnod cynharach ac at ŵr oedd a'i wreiddiau'n weddol o agos i Drecŵn.
Rwy'n cofio adrodd cerdd mewn eisteddfod ysgol oedd yn cychwyn gyda'r cwpled hwn.
"Barti Ddu o Gasnewy' Bach, y morwr tal a chwerthiniad iach"
Bartholomew Roberts neu 'Black Bart' yw Barti Ddu ac roedd yn un o forladron mwyaf llwyddiannus yn 18fed ganrif yn ogystal â bod yn destun nofel i blant gan T. Llew Jones.
Gadewch i ni edrych ar un digwyddiad yng ngyrfa'r morleidr. Ym mis Ionawr, 1722 hwyliodd Roberts a'i ddilynwyr i mewn i borthladd Ouidah yng ngorllewin Affrica, un o ganolfannau'r fasnach mewn bodau dynol, a chipio un ar ddeg o longau oedd wedi eu hangori yno.
Rhyddhawyd y llongau ar ôl talu pridwerth o wyth pwys o aur ond pan wrthododd un capten delerau Bartholomew Roberts fe roddwyd ei long ar dân gan y morladron. Yn ôl disgrifiadau ar y pryd fe gafodd wythdeg o gaethweision eu lladd naill ai gan y tân, trwy foddi neu wrth i siarcod ymosod arnynt.
Mae 'na sawl gair da i ddisgrifio Bartholomew Roberts. Mae llofrudd, lleidr a throseddwr yn erbyn y ddynoliaeth ymhlith y rheiny. Efallai'n wir fod chwerthiniad iach gan Barti Ddu ond roedd y dyn ei hun yn afiach.
Serch hynny, am genedlaethau ffigwr rhamantus oedd Barti Ddu i'r Cymry. Felly hefyd Syr Harri Morgan, dihiryn arall oedd yn destun nofel plant.
Nawr, peidiwch â'n nghamddeall. Trysor y Morladron oedd fy hoff lyfr fel plentyn ac roedd T. Llew Jones ond yn adlewyrchu diwylliant ac agweddau ei gyfnod wrth ei hysgrifennu.
Heddiw rydym yn gwybod yn well ac nid trigolion Bryste a Lerpwl yn unig ddylai fod yn pendroni ynghylch y rhan hon o'n hanes.