Anafiadau difrifol wedi i drên daro fan ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Tren

Mae un person wedi cael anafiadau difrifol ar ôl gwrthdrawiad rhwng fan a thrên ar groesfan ym Mhowys.

Cafodd yr unigolyn ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Brenhinol Stoke yn dilyn y gwrthdrawiad, medd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod trên oedd yn teithio rhwng Amwythig a'r Trallwng wedi taro'r cerbyd ar yr A458 yn Buttington, ger Y Trallwng, am tua 13:45 ddydd Llun.

Roedd y ffordd ar gau am gyfnod yn dilyn y digwyddiad ond mae hi bellach wedi ailagor.

Ymchwilio i'r digwyddiad

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar lon fechan oddi ar yr A458.

Mae swyddog o Gangen Ymchwilio Damweiniau Rheilffyrdd (RAIB) wedi ei anfon i leoliad y gwrthdrawiad er mwyn casglu tystiolaeth a chynnal archwiliad cychwynnol.

Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain bod gyrrwr y fan wedi ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Network Rail: "Cawsom ein hysbysu am ddigwyddiad rhwng cyffordd Sutton Bridge a'r Trallwng ychydig cyn 14:00 heddiw. Mae'r gwasanaethau brys ar y safle."

Cafodd tri ambiwlans, cerbyd ymateb brys a'r ambiwlans awyr eu galw i'r digwyddiad.

Cafodd y gwasanaeth tân ac achub eu galw hefyd.