Cyngor Môn yn annog gweithwyr ffatri i gael prawf
- Cyhoeddwyd

Mae holl staff ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn cael tâl llawn yn ystod y cyfnod o hunan-ynysu
Mae staff ffatri yn Llangefni, na sydd hyd yma wedi cael prawf coronafeirws, yn cael eu hannog i gael eu profi.
Daw cais cyngor Sir Ynys Môn wedi i 210 achos gael eu cadarnhau ymhlith gweithwyr yn ffatri 2 Sisters.
Yn y cyfamser dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yw oddeutu 300 o weithwyr ffatri yn Wrecsam "wedi cael prawf".
Mae oddeutu 166 achos o haint coronafeirws yn Ffatri Rowan Foods ond dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yn y ffatri y tarddodd yr haint.
Mae oddeutu 1,000 o bobl sy'n gysylltiedig â'r ffatri fwyd yn Wrecsam eisoes wedi cael eu profi.

Mae cwmni Rowan Foods yn Wrecsam yn defnyddio sgriniau ac offer arbenigol i gadw staff yn ddiogel
Ddydd Sadwrn dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i "gysylltu â dros 300 o weithwyr na sydd eto wedi cyflwyno eu hunain ar gyfer prawf".
Ddydd Gwener cafodd chwech achos yn rhagor eu cofnodi ymlhith y gweithlu sy'n gysylltiedig â ffatri 2 Sisters gan fynd â'r cyfanswm o 204 i 210.
Dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y "cynnydd yn yr achosion yn isel ac yn dystiolaeth bod y mesurau a'r profi yn llwyddo".
Ar eu cyfrif twitter mae Cyngor Ynys Môn wedi rhannu dolen sy'n gofyn i weithwyr eraill yn ffatri 2 Sisters i gael prawf "er mwyn diogelu eu hunain, eu teulu, eu ffrindiau a'u cymunedau".
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020