Bron i 100 o weithwyr mewn dwy ffatri wedi dal Covid-19

  • Cyhoeddwyd
ffatri 2 Sisters yn LlangefniFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae 560 o bobl yn gweithio yn ffatri 2 Sisters yn Llangefni

Mae bron i 100 o weithwyr mewn dwy o ffatrïoedd prosesu bwyd y gogledd wedi cael cadarnhad eu bod wedi dal coronafeirws.

Mae ffatri brosesu ieir 2 Sisters yn Llangefni, ar Ynys Môn wedi rhoi'r gorau i gynhyrchu am y tro ar ôl i 58 o weithwyr brofi'n bositif am Covid-19.

Ac yn ffatri Rowan Foods yn Wrecsam, sy'n darparu bwydydd ar gyfer archfarchnadoedd ar draws y DU, mae 38 aelod staff wedi cael profion positif.

Dywed y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod yr achosion yn "destun pryder", ac yn tanlinellu eto bwysigrwydd y rheol pellter cymdeithasol a golchi dwylo.

'Stopio gwaith cynhyrchu yn syth'

Brynhawn Iau dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod bellach wedi gofyn i holl aelodau staff a chontractwyr ffatri 2 Sisters yn Llangefni i hunan ynysu am 14 diwrnod.

Cadarnhaodd ICC fod nifer y gweithwyr sydd wedi cael y feirws wedi codi i 58.

Daeth cadarnhad fore Iau bod gwaith yn y ffatri yn dod i ben "yn syth am gyfnod o 14 diwrnod."

Mae profion coronafeirws yn cael eu trefnu i'r holl staff, ac mae 2 Sisters yn cysylltu gyda'r gweithlu i'w hysbysu am y trefniadau.

Mae canolfan brofi bwrpasol wedi cael ei sefydlu yn Llangefni. Bydd canolfan brofi ym Mangor hefyd yn cael ei defnyddio, ac fe fydd canolfan ychwanegol yn cael ei sefydlu yng Nghaergybi i gynorthwyo gyda'r gwaith.

Dywedodd Dr Christopher Johnson, ymgynghorydd diogelu iechyd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, eu bod yn "gweithio mewn cydweithrediad agos â'r cyflogwr a Chyngor Ynys Môn, a'n blaenoriaeth yw dod â'r achos hwn i derfyn yn cyflym".

"Rydyn ni'n atgoffa aelodau'r cyhoedd yng Nghymru bod ganddyn nhw rôl hanfodol wrth atal coronafeirws rhag lledaenu," ychwanegodd.

Dywed y cwmni fod y penderfyniad yn dangos "yn glir pa mor ddifrifol rydyn ni'n cymryd y mater" a'u bod yn "gwneud y peth iawn".

"Heb ein pobl, rydyn ni'n ddim," meddai llefarydd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mynedfa ffatri Rowan Foods ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam

Mae Rowan Foods yn cyflogi 1,500 o bobl yn Wrecsam ac yn paratoi bwyd ar gyfer archfarchnadoedd yn cynnwys Aldi, Asda, Sainsbury's a Tesco.

Cadarnhaodd y cwmni sy'n berchen ar y busnes, Oscar Meyer Quality Foods, fod 38 aelod staff yn absennol o'r gwaith wedi prawf positif Covid-19 a'u bod eisoes wedi dechrau ar broses olrhain unigolion cyn dechrau cydweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Rydym yn ddiolchgar iawn bod dim un o'n cydweithwyr yn ddifrifol wael neu yn yr ysbyty oherwydd y feirws yma," ychwanegodd.

Mae staff yn dilyn y canllawiau ynysu priodol, ac mae'r cwmni "wedi gweithredu newidiadau sylweddol" yn y ffatri, gan gynnwys trefnu sgriniau a fisorau ble "nad yw bob tro'n bosib" i gadw dau fetr ar wahân.

Dywed y datganiad fod trafodaethau'r cwmni gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu "niferoedd uchel iawn o achosion positif yn ardal Wrecsam" a bod hi'n "destun pryder, ond nid yn syndod i weld effaith y duedd leol yma ar nifer o'n staff".

"Er nifer o achosion ar y safle... does dim tystiolaeth glir i awgrymu fod y feirws yn lledu o fewn y safle," ychwanegodd. "Fe wnawn ni barhau i wneud popeth posib i fod yn wyliadwrus a chadw cydweithwyr a'u teuluoedd yn ddiogel."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething ei fod yn ofni y bydd hyd yn oed mwy o achosion

Wrth siarad yn nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru brynhawn Iau, dywedodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething fod y newyddion yn "atgyfnerthu pwysigrwydd pellhau cymdeithasol a glendid dwylo".

"O ystyried bod [y ffatri] yn lleoliad caeedig, rwy'n amlwg yn bryderus y byddwn yn gweld mwy o achosion wedi'u cadarnhau o coronafeirws," ychwanegodd.

Dywedodd fod yr achosion hefyd yn pwysleisio "pwysigrwydd ein system olrhain, a bod gwir angen i bobl ddilyn y cyngor sy'n cael ei roi iddyn nhw ar gael prawf, ac ar hunan ynysu".

Penderfyniad 'cywir'

Dywedodd Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth fod y penderfyniad yn un "cywir i ddiogelu staff a'r cyhoedd".

Yn ôl y cwmni, eu blaenoriaeth nawr fydd cefnogi eu cydweithwyr drwy'r cyfnod nesaf ac edrych ymlaen i ail-ddechrau'r gwaith yn ddiogel ymhen 14 diwrnod.

Mae 2 Sisters Food Group yn un o'r cynhyrchwyr bwyd mwyaf yn y DU, sy'n cynnwys brandiau fel Fox's Biscuits a Holland's Pies.

Mae'r cwmni hefyd yn cynhyrchu tua thraean o holl gynnyrch dofednod (poultry) sy'n cael ei fwyta yn y DU.