ABC ac i ffwrdd â ni
- Cyhoeddwyd
Pe bawn i'n llunio gwyddor wleidyddol ar hyn o bryd fe fyddai'n cychwyn rhywbeth fel hyn.
A am Argyfwng, B am Bregsit, C am Covid ac yn y blaen. Mae'n debyg taw Chwalfa fyddai'r Ch gyda "Duw a'n helpo" yn cynrychioli'r D!
Y B sy'n denu fy sylw y tro hwn a chanlyniadau hynod ddiddorol gan y European Social Survey, dolen allanol. Arolwg barn enfawr a gynhelir bob dwy flynedd yw'r ESS lle mae degau o filoedd o bobol yn cael eu holi ar draws Ewrop er mwyn gallu cymharu data rhwng gwahanol wledydd.
Dyw canlyniadau arolwg 2020 ddim wedi eu cyhoeddi eto ond mae CNN, dolen allanol wedi cael rhagflas o'r canlyniadau yn un maes sef y gefnogaeth i'r Undeb Ewropeaidd.
Yn groes i ddarogan ambell i sylwebydd mae 'na gefnogaeth gadarn i'r undeb ymhlith ei thrigolion hyd yn oed yn y gwledydd lle mae'r sefydliad i fod, yn ôl y sylwebyddion hynny, yn amhoblogaidd.
Dim ond 6.3% o'r rhai a holwyd yn Sbaen, er enghraifft, oedd yn dymuno gadael yr undeb a hyd yn oed yn yr Eidal roedd bron i 70% o'r boblogaeth yn dymuno aros yn yr undeb.
Ond mae'n bosib taw canlyniadau'r Deyrnas Unedig yw'r rhai mwyaf diddorol.
Yn ôl yr ESS roedd 56.8% o'r rhai a holwyd yn credu y dylai'r Deyrnas Unedig fod yn rhan o'r undeb a dim ond 34.9% oedd yn credu na ddylai hi fod.
Nawr, mae cysgod y pandemig yn drwm dros bopeth ar hyn o bryd ac efallai bod hynny'n esbonio'r ffigyrau yna ond os ydy pobol Prydain yn cwympo mas o gariad gyda Bregsit mae hynny'n esbonio rhywbeth rwyf wedi bod yn pendroni yn ei gylch.
Y cwestiwn fi wedi bod yn gofyn i fy hun yw hwn. Pam fod llywodraeth Boris Johnson ar gymaint o hast i wneud pethau?
Mae llywodraethau gwirioneddol radicalaidd yn bethau prin ym Mhrydain. Dwy sydd wedi bod ers y rhyfel mewn gwirionedd sef llywodraethau Attlee a Thatcher ac yn achos Mrs Thatcher fe gyflwynwyd newidiadau sylfaenol dros gyfnod o ddegawd a mwy.
Mae llywodraeth Johnson, ar y llaw arall, ar ras wyllt i wneud pethau gan ymddwyn fel llywodraeth sy'n ofni colli grym unrhyw funud yn hytrach nac un sydd newydd ennill etholiad cyffredinol gyda choblyn o fwyafrif.
Maen nhw'n ymddwyn, mewn geiriau eraill, fel y byswn i wedi disgwyl i lywodraeth o Gorbinwyr ymddwyn, gan geisio cyflawni cymaint â phosib yn gyflym iawn rhag ofn i'w plaid neu'r etholwyr droi yn eu herbyn.
Ydyn nhw efallai yn synhwyro y bydd moment y Bregsitwyr yn un fer?