Siom ar yr ochr orau wrth i fusnesau Ceinewydd ailagor

  • Cyhoeddwyd
Twristiaid yng Ngheinewydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae twristiaid wedi heidio'n ôl i Geinewydd yn yr wythnosau diwethaf

Union fis yn ôl, fe ailagorodd Cymru yn raddol, ac yng Ngheinewydd, yng Ngheredigion, fel pob tref lan môr arall, mae mwyafrif busnesau'r dref bellach ar agor.

Ac yn eu miloedd, mae ymwelwyr wedi heidio yno.

Yn gweithio ar y môr yng Ngheinewydd ers y 1950au, roedd gan Winston Evans bryderon fis diwethaf am nifer yr ymwelwyr fyddai'n teithio i'r dref, a dyw'r gofidiau hynny ddim wedi diflannu'n llwyr.

"Mae miloedd 'ma nawr, yn does e?" meddai. "Ond be sy'n mynd i ddigwydd sy'n mynd i ddigwydd.

"Os oes 10,000 yma, fi'n weddol siŵr bod un o bob 1,000 'da'r clefyd. Ma' gwd siawns, yn does e?

Disgrifiad o’r llun,

Er yn gweld ambell arwydd calonogol, dydy pryderon Winston Evans heb ddiflannu'n gyfan gwbl

"S'mo hynny'n gweud bo' ni'n mynd i ddala fe. Anlwc fydde hynny, a gobeithio wedyn ddelen ni trwyddo fe. Ond ma' raid cario mlaen, yn does e."

Mae'r brif heol trwy Geinewydd wedi ei chau i gerbydau yn ystod y dydd er mwyn caniatáu mwy o le i gerddwyr. Ac mae barn Winston Evans am hynny wedi newid.

"O'n i yn ei erbyn e yn y dechre achos wi'n rhedeg siop bysgod, ac fel arfer ma' dynion yn dod lawr 'ma yn y car i nôl pysgod, stopo am eiliad a mynd.

"O'n i ddim yn gweld y bydde neb yn dod i brynu pysgod a cherdded lawr o dop cei. Ond mae'r siop yn neud yn olreit. Felly ma' raid i fi dynnu nôl be o'n i'n feddwl am hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pethau'n mynd yn dda, medd Dafydd Lewis - a mwyafrif helaeth y cwsmeriaid yn cadw at y rheolau

Mae'r teithiau i weld y dolffiniaid ym Mae Ceredigion wedi ailddechrau, a'r cyfan yn llifo'n ddigon hwylus yn ôl Dafydd Lewis o gwmni Dolphin Spotting Boat Trips.

"Ma' pethe'n mynd yn rhyfeddol o dda, a gweud y gwir," meddai.

"Ni'n gorfod saniteiddio'r cwch i gyd. 'Den ni'n neud hynna rhwng pob trip. A wedyn ma'r cwsmeriaid yn cael hand sanitiser - pob un yn golchi dwylo wrth ddod 'mlan a dod bant oddi ar y cwch hefyd."

Wrth gyfeirio at ymddygiad y cwsmeriaid, mae Dafydd Lewis yn canmol y mwyafrif llethol.

"Mae pob un wedi bod eitha' da, a dweud y gwir. Dim ond un fenyw sy' ddim 'di bod. Ond unwaith roion ni ddwy neu dair pregeth iddi, o'dd hi'n weddol wedyn."

Disgrifiad o’r llun,

Dydy'r Llew Du heb ddechrau gweini dan do eto, medd Gareth Davies

Roedd tafarn Y Llew Du yn asesu sut i weini bwyd y tu allan fis diwethaf. Bellach, mae'r ardd wedi ei thrawsnewid, a phabell fawr yno.

Mae'r cogydd Gareth Davies yn ddigon hapus ei fyd: "Mae nifer y cwsmeriaid all fwyta yma wedi haneru, a ma' pob un yn dechre dod yn gyfarwydd â bwcio'n gynnar.

"Ond ma' rhai yn dod yma yn disgwyl cael bwrdd yn syth, a does fawr o hwyl wedyn."

Er bod modd gweini bwyd dan do bellach, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, dyw'r Llew Du ddim yn cynnig bwyd y tu mewn.

"Ni'n cadw pethau fel ma' nhw. Ma' popeth yn gweithio'n dda ar y foment, ac mae'r system un ffordd yn gweithio dda iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae holl fythynnod gwyliau Llinos Young yn llawn tan wythnos gyntaf Medi

Mae pob un o fythynnod Neuadd Farm Cottages yn Llwyndafydd bellach wedi llenwi am weddill yr haf.

"Ni'n llawn hyd at wythnos gyntaf Medi," meddai'r perchennog, Llinos Young.

"Mae'n fishi iawn yma, ac os gewn ni dywydd gweddol fach fis Medi, falle daw fwy o bobl eto."