Ail Adran: Casnewydd 2 - 1 Barrow
- Cyhoeddwyd

Ryan Taylor o Gasnewydd (chwith) yn herio Mike Jones o Barrow
Roedd gôl gan Ryan Taylor yn ddigon i roi buddugoliaeth i Gasnewydd dros Barrow yn yr ail adran brynhawn Sadwrn.
Fe amneidiodd yr ymosodwr ar gamgymeriad amddiffynnol drwy anfon y bêl heibio i'r golwr Joel Dixon, gan sicrhau ei ail gôl mewn dwy gêm.
Roedd Liam Shephard wedi rhoi Casnewydd ar y blaen yn gynnar gyda'i gôl gyntaf i'r Alltudion, ar ôl i Barrow fethu â mynd i'r afael â chroesiad Ryan Haynes.
Daeth Barrow yn gyfartal ychydig cyn hanner amser diolch i ergyd gadarn Lewis Hardcastle o ymyl y cwrt cosbi.