Adran Dau: Bolton 0-2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Tristan Abrahams yn sgorio i GasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Tristan Abrahams yn sgorio i Gasnewydd

Sgoriodd Tristan Abrahams ddwywaith yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol oddi cartref i Gasnewydd.

Mae'r Alltudion wedi codi i drydydd safle Adran Dau ar ôl curo Bolton 0-2.

Daeth y goliau wedi 54 a 63 o funudau - y ddau yn ganlyniad ergydion o agos wedi i'r golwr Billy Crellin fethu ag arbed ymdrechion gan Joss Labadie yn yr achos cyntaf, a Ryan Haynes.

Roedd Bolton yn meddwl eu bod wedi dod yn gyfartal cyn ail gôl Casnewydd, ond cafodd gôl Nathan Delfouneso ei wrthod wedi achos o lawio.

Mae Casnewydd â saith o bwyntiau wedi tair gêm wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Newcastle United nos Fercher ym mhedwaredd rownd Cwpan y Gynghrair.