Gwlad Belg dan-21 5-0 Cymru dan-21
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion tîm pêl-droed dan-21 Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2021 fwy neu lai ar ben wedi iddyn nhw golli'r drwm i Wlad Belg yn Leuven.
Roedd y gwrthwynebwyr - arweinwyr Grŵp Naw - 3-0 ar y blaen wedi'r hanner cyntaf, diolch i gic gosb lwyddiannus Mike Ndayishimiye a dwy gôl Sambi Lokonga.
Sgoriodd Jelle Bataille a Loïs Openda, ail Wlad Belg o'r smotyn, yn yr ail hanner i selio'r fuddugoliaeth.
Mae Cymru'n parhau'n bedwerydd yn y tabl allan o bump, saith pwynt tu ôl i Wlad Belg.
Cymru yw'r unig dîm i guro Gwlad Belg yn y gemau rhagbrofol, ond mae Brennan Johnson, a sgoriodd yn y gêm honno bellach yng ngharfan Ryan Giggs ynghyd â'r amddiffynwyr Ben Cabango a Rhys Norrington-Davies.
Roedd amddiffynnwr Abertawe, Oliver Cooper, hefyd yn absennol oherwydd anaf.