Ail Adran: Caergrawnt 2-1 Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae Casnewydd wedi colli eu lle ar frig Adran Dau ar ôl colli 2-1 yng Nghaergrawnt.
Roedd hyn er gwaethaf gôl drawiadol Scott Twine i ddod â'r Alltudion yn gyfartal.
Dyma'r tro cyntaf i Gasnewydd golli'r tymor hwn
Sgoriodd Paul Mullin ddwy gôl i sicrhau tri phwynt i'r tîm cartref.
Golygai'r canlyniad fod Casnewydd yn gostwng i'r trydydd safle.