James Collins yn ymddeol o bêl-droed yn 37 oed

  • Cyhoeddwyd
James CollinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd James Collins yn rhan o dîm Cymru wnaeth gyrraedd rownd gyn-derfynol Euro 2016

Mae cyn-amddiffynnwr Cymru, James Collins wedi cyhoeddi ei fod wedi ymddeol o bêl-droed.

Enillodd 51 o gapiau dros ei wlad, gan sgorio deirgwaith, ac fe ddechreuodd y gêm gyn-derfynol yn erbyn Portiwgal yn Euro 2016.

Chwaraeodd dros 300 o gemau i Gaerdydd, West Ham ac Aston Villa.

Ond roedd wedi bod heb glwb ers gadael Ipswich ym mis Mai 2019.

"Ni fydd hyn yn dod fel fawr o syndod i'r mwyafrif o bobl gan nad ydw i wedi chwarae ers tymor bellach," meddai'r gŵr 37 oed ar Instagram.

"Ond gyda chalon drom rwyf wedi penderfynu ymddeol yn swyddogol o bêl-droed."

Gan ddiolch i gefnogwyr Cymru, dywedodd Collins fod cynrychioli ei wlad wedi bod yn "freuddwyd" ers iddo fod yn fachgen.