Adran Dau: Casnewydd 1-0 Tranmere Rovers

  • Cyhoeddwyd
Mike FlynnFfynhonnell y llun, Jack Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n anrheg pen-blwydd delfrydol i Mike Flynn ddydd Sadwrn

Mae Casnewydd yn parhau yn agos i frig yr Ail Adran ar ôl crafu heibio Tranmere Rovers.

Tarodd Saikou Janneh cyn yr egwyl gyda'i gôl gyntaf i'r tîm cartref.

Cafodd Paul Lewis ei anfon o'r maes i'r ymwelwyr yn yr ail hanner am dacl beryglus ar Joss Labadie.

Ar ben-blwydd y rheolwr Michael Flynn yn 40 oed, arhosodd ei ochr yn ail yn y tabl y tu ôl i Cambridge United ar wahaniaeth goliau.