Darnau o hanes ardal Dociau Caerdydd dan fygythiad

  • Cyhoeddwyd
Lluniau archifFfynhonnell y llun, The Heritage and Cultural Exchange
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r casgliad yn cynnwys lluniau o'r dociau o ddiwedd y 1880au

Mae archif sy'n adrodd hanes cymunedau ardal y dociau yng Nghaerdydd mewn perygl o gael ei cholli os na fydd modd cael cartref newydd i'r deunydd.

Mae'r casgliad yn gofnod pwysig o hanes y bobl oedd yn byw ac yn gweithio mewn cymunedau fel Trebiwt a Tiger Bay.

Ar hyn o bryd mae'r archif, sy'n cynnwys miloedd o ddogfennau, lluniau, tapiau sain a fideo, yng ngofal elusen Y Gyfnewidfa Dreftadaeth a Diwylliant (The Heritage and Cultural Exchange).

Dyw llawer o'r deunydd erioed wedi cael ei weld gan y cyhoedd o'r blaen, ond mae'r elusen yn poeni y gallai'r casgliad ddiflannu dros amser, neu ddirywio os na ellir gwneud fersiynau digidol ohono, a dod o hyd i gartref pwrpasol i'w gadw a'i arddangos.

Gobeithio digido'r casgliad

Arbedodd cadeirydd yr elusen, Gaynor Legall, y casgliad pan gaeodd Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt yn ddiweddar, a bellach mae'r deunydd yn cael ei gadw mewn dau leoliad, gyda'r eitemau mwyaf gwerthfawr dan ofal Archifdy Morgannwg, a'r gweddill yng Nghanolfan Gymunedol Trebiwt.

Yno, mae grŵp o wirfoddolwyr wedi bod yn mynd drwy'r deunydd er mwyn dechrau ar y gwaith o'i ddigido.

Yn ôl yr elusen, roedd Gwesty'r Gyfnewidfa - yr hen Gyfnewidfa Lo yn Sgwâr Mount Stuart - wedi addo cartref i'r casgliad yn selerydd yr adeilad.

ArchifFfynhonnell y llun, The Heritage and Cultural Exchange

Aeth y cwmni oedd yn adnewyddu'r adeilad i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Mai, ond mae bellach yn nwylo rheolwyr newydd.

"Ers hynny mae'n gobeithion o allu symud i mewn yno yn brin iawn," meddai Ms Legall.

'Nid brenhinoedd a breninesau'

Mae'r archif yn adrodd hanes pobl gyffredin yr ardal, meddai.

"Nid brenhinoedd a breninesau, ond pobl gyffredin.

"Nid yw hanes yn cofnodi bywydau pobl gyffredin, felly mae canfod rhagor am eu bywydau wedi bod yn syrpreis ffantastig," meddai.

Lluniau archifFfynhonnell y llun, The Heritage and Cultural Exchange
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r archifau yn cofnodi hanes pobl gyffredin Tiger Bay

Mae Elbashir Idris yn ymgyrchydd ac arweinydd cymunedol yn ardal Trebiwt, ac mae'n bendant ei farn ynglŷn â dyfodol y casgliad.

"Dylai'r casgliad gael ei gadw'n lleol, neu o leiaf gael ei ddigido, fel bod pobl leol yn gallu cael mynediad iddo," meddai.

"Dydw i ddim eisiau gweld yr ardal yma'n dod yn rhywle arall sydd heb hanes tu ôl iddi. Ardaloedd sy'n creu hunaniaeth ac fe ddylem fod yn eu dathlu."

Llygedyn o obaith

Mae Ashley Govier yn gyn-gynghorydd yn Nhrebiwt, ac yn gyfarwyddwr Eden Grove Properties, sydd wedi cymryd Gwesty'r Gyfnewidfa drosodd gan Signature Living, a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr yn gynharach eleni.

"Mae gennym waith sydd angen cymryd blaenoriaeth i sicrhau bod yr adeilad yn dal dŵr, yn ogystal ag ystyriaethau sylweddol eraill yn ymwneud â'r adeilad," meddai.

Y selerydd fyddai'r rhan olaf i gael sylw gan y cwmni, meddai, cyn ychwanegu llygedyn o obaith i'r elusen.

"Ond dwi'n sicr yn credu ein bod angen rhywbeth fel yna yn yr adeilad - bendant," meddai.