Enwau o'r het ar gyfer rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr
- Cyhoeddwyd
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het ar gyfer rownd gyntaf Cwpan FA Lloegr 2020-21.
Dim ond un tîm o Gymru sydd yn y rownd gyntaf eleni, gan fod Wrecsam eisoes wedi colli yn y rowndiau rhagbrofol, a bydd Caerdydd ac Abertawe'n ymuno yn hwyrach yn y gystadleuaeth.
Casnewydd yw'r tîm hwnnw a doedd dim rhaid i gefnogwyr yr Alltudion ddisgwy yn hir i gael clywed eu tynged.
Casnewydd oedd yr ail enw allan o'r het.
Bydd ganddyn nhw daith oddi cartref i herio Leyton Orient yn y rownd gyntaf.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ar y penwythnos sy'n dechrau ar 7 Tachwedd.