Adran Dau: Casnewydd 2-1 Colchester
- Cyhoeddwyd
Mae Casnewydd yn dal ar frig Adran Dau wedi buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Colchester United yn Rodney Parade.
Wedi 45 munud cyntaf di-sgôr, roedd Casnewydd â'r fantais am fwyafrif yr ail hanner, diolch i Scott Twine a rwydodd gydag ergyd nerthol wedi 51 o funudau.
Roedd yn ymddangos fod Jevani Brown wedi bachu pwynt i Colchester gyda munud o'r 90 yn weddill, pan syrthiodd y bêl, wedi ymgais aflwyddiannus Kwame Poku, i'w droed chwith ac yna i gornel dde'r rhwyd gydag ergyd o agos.
Ond yn eiliadau olaf amser ychwanegol fe sgoriodd Padraig Amond gydag ergyd droed dde o ochor chwith y cwrt cosbi i sicrhau'r triphwynt i'r tîm cartref.
Mae pedwaredd fuddugoliaeth Casnewydd o'r bron yn golygu eu bod yn aros ar frig y tabl gyda 22 o bwyntiau.