Adran Dau: Casnewydd 2-1 Harrogate
- Cyhoeddwyd
Roedd peniad hwyr Brandon Cooper yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i Gasnewydd, a chynyddu eu mantais ar frig Adran Dau i bum pwynt.
Padraig Amond oedd y cyntaf i sgorio i'r tîm cartref yn dilyn chwarae medrus gan Joss Labadie a Liam Shephard.
Bu'n rhaid i Harrogate geisio ymdopi gyda 10 dyn yn unig ar ôl i Josh Falkingham gael ei hel o'r cae wedi 38 munud ag yntau wedi derbyn dau gerdyn melyn.
Llwyddodd yr ymwelwyr i unioni'r sgôr yn yr ail hanner gyda Dan Jones yn sgorio o gic gornel gan Will Smith.
Ond llwyddodd Cooper i hawlio'r tri phwynt i Gasnewydd yn y munudau olaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2020