Adran Dau: Caerliwelydd 3-2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
CaerliwelyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Casnewydd reoli'r meddiant ond Caerliwelydd gipiodd y pwyntiau

Mae Casnewydd yn parhau ar frig yr Ail Adran er iddyn nhw golli o 3-2 yn erbyn Caerliwelydd nos Fawrth.

Sgoriodd Jon Mellish ddwywaith i'r tîm cartref yn yr ail hanner ar ôl i gic o'r smotyn Lewis Alessandra eu rhoi ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Fe sgoriodd Jamie Devitt a'r Cymro, Josh Sheehan ddwy gôl hwyr i'r ymwelwyr ond fe lwyddodd Caerliwelydd i ddal eu gafael.

Mae'r Alltudion ar frig y tabl gyda 25 pwynt ar ôl 11 gêm, er gwaethaf y golled.