Cwpan FA Lloegr: Leyton Orient 1 - 2 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Jamie Devitt ar ran Casnewydd yn brwydro am fantais gyda Jobi McAnuff o Leyton OrientFfynhonnell y llun, Asiantaeth Lluniau Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Jamie Devitt ar ran Casnewydd yn brwydro am fantais gyda Jobi McAnuff o Leyton Orient

Roedd ergyd o bell gan Jamie Devitt yn ddigon i anfon Casnewydd i ail rownd Cwpan yr FA.

Mae Casnewydd wedi curo Caerlyr, Leeds a Middlesbrough yn y gystadleuaeth dros y tri thymor diwethaf.

Roedd Ashley Baker wedi rhoi Casnewydd ar y blaen cyn i Hector Kyprianou unioni'r sgôr cyn yr egwyl.

Ac er i Devitt, sydd ar fenthyg o Blakckpool, daro'r postyn gydag un ymgais roedd ei ergyd nesaf yn fwy cywir, a gyda chymorth gan Ashley Baker fe sicrhaodd e'r fuddugoliaeth i'r Alltudion.